Dau newid i dîm rygbi merched Cymru i herio Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Hannah Jones a Natalia JohnFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Mae Hannah Jones a Natalia John yn dychwelyd i'r tîm

Mae tîm merched Cymru wedi gwneud dau newid i'r 15 fydd yn herio Lloegr yn y Chwe Gwlad, yn dilyn y grasfa yn erbyn Ffrainc yn eu gêm ddiwethaf.

Bydd Hannah Jones a Natalia John, a fethodd y golled o 50-0 yn erbyn y Ffrancwyr, yn dychwelyd i'r tîm yn lle Megan Webb a Gwen Crabb.

Dydy Cymru dal heb ennill gêm yn y gystadleuaeth eto eleni, tra bod Lloegr wedi ennill tair allan o dair.

Bydd yr ornest yn cael ei chwarae yn Twickenham Stoop yn Llundain ddydd Sadwrn, gyda'r gic gyntaf am 12:05.

Tîm Cymru: Kayleigh Powell; Lisa Neumann, Hannah Jones, Kerin Lake, Caitlin Lewis; Robyn Wilkins, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones, Cerys Hale, Georgia Evans, Natalia John, Alisha Butchers, Bethan Lewis, Siwan Lillicrap (capten).

Eilyddion: Molly Kelly, Cara Hope, Ruth Lewis, Gwen Crabb, Robyn Lock, Ffion Lewis, Hannah Bluck, Lauren Smyth.