Taith o gwmpas cysylltiadau Cymreig Llundain

  • Cyhoeddwyd
Map Llundain

Dewch inni fod yn onest, gêm Cymru yn erbyn Lloegr yw un o gemau mwyaf pencampwriaeth y Chwe Gwlad i nifer o Gymry, ac mae'r gêm honno yn 2020 yn cael ei chynnal yng nghalon tiriogaeth yr hen elyn, Twickenham, ar gyrion Llundain.

Ond mae miloedd o Gymry yn teimlo'n gartrefol iawn ym mhrifddinas gosmopolitaidd y Saeson, a pha ryfedd, gan fod gennym ni gysylltiad agos gyda hi sy'n mynd nôl yn bell iawn.

Mae 22 Chwefror i 8 Mawrth yn Wythnos Cymru yn Llundain gyda digon o ddathlu Cymreictod yno ond os ydych chi eisiau mynd ar eich taith eich hun o gwmpas cysylltiadau Cymreig y ddinas beth am ddechrau gyda'r rhain:

Buddug a'r Brythoniaid

Disgrifiad o’r llun,
Mae cerflun Buddug a'i Merched ger pont Westminster

Yr enw i ddechrau: Llundain, London neu Londinium i'r Rhufeinaid. Wedi ei seilio ar enw Brythonaidd cynharach yn ôl ysgolheigion heddiw a'r Thames - afon Tafwys - hefyd yn enw Brythonaidd.

Os ewch chi i grwydro o gwmpas Palas San Steffan ar lan y Tafwys, fe welwch gerflun o'r frenhines Frythonaidd, Buddug, gyda'i merched. Roedd y cerflun yn rhyw fath o bropaganda i frenhines Fictoria pan gafodd ei greu yn 1850 ond arwres Geltaidd o lwyth yr Iceni oedd Buddug.

Fe wnaeth hi arwain gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid a llosgi eu tref newydd yn Llundain i'r llawr. Bron ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach mae cerflun buddugoliaethus ohoni ar lan y dŵr yn y ddinas enfawr a gododd o'r llwch. Rhyfedd o fyd!

'A Fo Ben...' a Thŵr Llundain

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl chwedlau'r Cymry, mae pen y cawr Bendigeidfran, hen frenin Ynys Prydain, wedi ei gladdu yn y Gwynfryn yn Llundain, sef lleoliad Tŵr Llundain heddiw yn ôl rhai, er bod eraill yn honni mai cadeirlan St Paul's yw safle'r Gwynfryn.

Tybed a oes cysylltiad rhwng y traddodiad Seisnig o gadw brain yn Nhŵr Llundain gydag enw Bendigedfran? Darllenwch nofel ffantasi Dadeni gan Ifan Morgan Jones os am archwilio hyn ymhellach!

Pen Llywelyn Ein Llyw Olaf

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o’r llun,
Darlun o 1754 yn dangos tyrfaoedd yn casglu i weld pen Llywelyn ar strydoedd Llundain

Petai gennych chi beiriant amser sy'n gallu mynd â chi nôl tua 750 mlynedd i'r union fan yma fe allech chi weld pen tywysog olaf Cymru, Llywelyn ap Gruffydd, wedi ei osod ar bostyn y tu allan i Dŵr Llundain.

Ar orchymyn brenin Lloegr cafodd ei ben ei gario drwy strydoedd Llundain i bawb ei weld yn gyntaf. Cafodd ei dad, Gruffudd ap Llywelyn ei gadw'n garcharor yma gyda'i deulu hefyd.

Os gallwch chi stumogi bwyd ar ôl hynna, dros y bont o'r tŵr mae blas o Gymru i'w gael ym mwyty Tom Simmonds o Sir Benfro yn 2 Still Walk, Tower Bridge.

Neu mae bwyty Tomos Parry o Fôn, Brat, yn 4 Redchurch St, Hackney. Bon appetit!

Big Ben

Ffynhonnell y llun, Oriel Portreadau Cenedlaethol
Disgrifiad o’r llun,
Syr Benjamin Hall: Big Ben

I lawr yr afon mae tŵr arall sy'n dal cloch enwog Big Ben. Er mai cawr oedd Bendigeidfran, does ganddo ddim i'w wneud efo Big Ben - mae'r enw hwnnw medden nhw wedi dod o gysylltiad y gloch gydag aelod seneddol Mynwy, Syr Benjamin Hall, periannydd a gomisiynodd y gloch wrth oruwchylio aildeiladu Palas San Steffan.

Gwraig Benjamin Hall, Arglwyddes Llanofer, wnaeth ddyfeisio'r wisg Gymreig draddodiadol a helpu i sefydlu'r cylchgrawn cyntaf i ferched yn Gymraeg, Y Gymraes.

Sefydlu Gorsedd y Beirdd

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Yma ar Fryn y Briallu ar hirddydd haf y cafwyd cyfarfod cyntaf Gorsedd y Beirdd

Yn y 1990au daeth ardal Primrose Hill yn enwog gyda sêr fel Kate Moss, Jude Law a'r Cymro Rhys Ifans yn byw a phartïa yno. Ond yn 1792 roedd yna set go wahanol o Gymry yn cyfarfod yma. Ar ben Bryn y Briallu yn Regent's Park y gwnaeth Iolo Morganwg a'i griw gynnal cyfarfod cyntaf Gorsedd y Beirdd, un o symbolau amlycaf yr Eisteddfod Genedlaethol.

Ffynhonnell y llun, Helen Hall
Disgrifiad o’r llun,
Ceir cofeb i gofio cyfraniad Iolo Morganwg ym Mryn y Briallu yn Llundain

Wedi ei ysbrydoli gan hanes y derwyddon - ac efallai opiwm - roedd Iolo eisiau creu cymdeithas i gadw traddodiad derwyddon hen Ynys Prydain yn fyw. Mae plac i nodi'r achlysur ar ben y bryn.

Os yw'r hanes yn gwneud i chi hiraethu am glywed ychydig o'r heniaith, a'r awyr iach yn eich gwneud yn llwglyd, mae 'na siawns go dda y bydd 'na siaradwyr Cymraeg yn mwynhau bwyd y cogydd Bryn Williams ym mwyty Odette's yn 130 Regents Park Road, ddim ymhell i ffwrdd.

Mae gan y cogydd o Ddinbych fwyty arall yn Somerset House, ger pont Waterloo hefyd.

Cymdeithas y Cymmrodorion

Ffynhonnell y llun, Stephen Richards

Yn rhif 37a Clerkenwell Green mae 'na adeilad sy'n debyg iawn i gapel Cymreig - dyma gartref y Marx Memorial Library heddiw ond radicaliaid gwahanol oedd yno yn 1738 pan gafodd yr adeilad ei godi i fod yn gartref newydd i'r Ysgol Elusennol Cymreig. Roedd y Welsh Charity School wedi ei chreu gyntaf yn 1715 i roi addysg i blant tlawd Cymry Llundain.

Mae Ysgol Gymraeg Llundain bellach yn Henwell.

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Lewis Morris oedd yr hynaf o bedwar brawd diwylliedig oedd yn cael eu galw'n Forrisiaid Môn

Yr adeilad rhestredig yma hefyd oedd cartref cyntaf Cymdeithas y Cymmrodorion a sefydlwyd yn Llundain yn 1751 gan y brodyr Lewis a Richard Morris o Ynys Môn oedd yn aelodau o gymuned eang o ddeallusion Cymreig oedd yn byw yn Llundain.

Nod y gymdeithas, sy'n dal i fynd heddiw, yw hyrwyddo a datblygu iaith, llenyddiaeth, celfyddydau a gwyddorau Cymru.

Canolfan Cymry Llundain

Disgrifiad o’r llun,
Petula Clarke a Chôr Ieuenctid Cymry Llundain yn 1969

Mae'r gymuned Gymraeg yn dal yn gryf yn Llundain a'r ganolfan yn 157-163 Gray's Inn Road yn un o'r prif gyrchfannau. Ar ddiwrnod y gêm fe fydd yn llawn dop o bobl yn gwylio'r rygbi.

Yn y ganrif ddiwethaf roedd pobl fel Ryan Davies, Richard Burton, Hafina Clwyd, Caradog Pritchard a Gwyneth Jones yn diddanu cynulleidfaoedd mawr yma ac mae'n dal i fod yn ganolfan i ddigwyddiadau Cymreig.

'Y siop lyfrau orau yng Nghymru'

Ffynhonnell y llun, Teifion Griffiths
Disgrifiad o’r llun,
Y brodyr Griffiths, cyn-lowyr o Gilfach Goch a agorodd siop lyfrau Gymraeg yn 4 Cecil Court, Llundain

Am 38 mlynedd roedd Siop Lyfrau Griffs yn hafan i Gymry llengar Llundain ac i unrhyw un oedd eisiau dod i drafod pynciau'r dydd yn Gymraeg gyda'r pedwar brawd o Forgannwg, Will, Jos, Jack ac Arthur yn 4 Cecil Court, Covent Garden.

Ffynhonnell y llun, Mark Everett

Mae Cecil Court yn dal yn nefoedd i unrhyw lyfrbryf a siop Tyndley and Everett sydd yn lle'r hen Griffs heddiw. Roedd yn cael ei galw yn 'y siop lyfrau orau yng Nghymru', er ei bod yn Llundain, a bu Will Griffiths yn gyfrifol am gyhoeddi llyfrau Cymraeg fel y clasur O Law i Law.

Yn y blynyddoedd wedi'r Ail Ryfel Byd byddai beirdd a llenorion fel Dylan Thomas, Geraint Dyfnallt Morgan, Aneurin Talfan Davies a Caradog Prichard yn galw heibio am baned a sgwrs yn y seler.

Roedd Caradog Prichard, awdur Un Nos Ola Leuad, yn gweithio fel newyddiadurwr yn Fleet Street gerllaw. Mae cynlluniau ar y gweill i'w ferch, Mari Prichard, ddadorchuddio plac i gofio am siop y brodyr.

Richard Burton a'i Van Gogh gwreiddiol yn y Dorchester

Ffynhonnell y llun, Keystone-France

Cymro lliwgar arall a dreuliodd lawer o amser yn Llundain oedd yr actor Richard Burton. Yn anterth ei enwogrwydd, roedd Burton a'i wraig Elizabeth Taylor yn byw mewn suite yng ngwesty'r Dorchester

Mae un stori am Elizabeth yn mynd allan i brynu anrheg syrpreis i'w gŵr - prynodd ddarlun gan Vincent Van Gogh am £93,000 o Sothebys a'i gludo nôl i'r gwesty mewn tacsi a'i hoelio uwch ben y lle tân i aros i Richard ddod nôl.

Pan agorodd The Taming Of The Shrew, dywedir fod Richard wedi dod â 150 o deulu a ffrindiau o Bontrhydyfen i Lundain i aros gyda nhw ar lawr cyfan o'r Dorchester.

Dinas llawn capeli Cymreig

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Mae Eglwys Gymraeg Canol Llundain wedi bod yn ganolfan i gynnal rownd ragbrofol i gystadleuwyr Eisteddfod yr Urdd sy'n byw tu allan i Gymru

Yn ôl ymchwil y darlledwr Huw Edwards roedd cymaint â 31 o eglwysi a chapeli Cymraeg yn Llundain ar drothwy'r Ail Ryfel Byd ac roedden nhw "yn ddylanwadau pwerus ar fywyd crefyddol, cymdeithasol, gwleidyddol ac addysgol Cymru.

"Codwyd capeli mawr fel Jewin, Charing Cross Road ac Eastcastle Street yng nghanol bwrlwm y ddinas."

Eglwys Gymraeg Canol Llundain a agorwyd yn 1785 oedd y capel anghydffurfiol Cymraeg cyntaf yn y ddinas ond mae ymchwil Huw Edwards wedi darganfod fod pregethau Cymraeg wedi digwydd mor bell yn ôl â 1714 yn St Pauls', Covent Garden a hefyd yn St Dunstan-in-the-West yn 1720.

Cefn Gwlad yn Llundain?

Disgrifiad o’r llun,
Daw Dai Jones nid o Lanilar, ond o Putney yn Llundain, yn wreiddiol

Oeddech chi'n gwybod mai brodor o Lundain ydy Dai Jones Llanilar? Cafodd Dai a llawer o Gymry eraill eu magu yn Llundain oherwydd y diwydiant llaeth a ddenodd ddegau o deuluoedd i'r brifddinas yn yr 19eg a'r 20fed Ganrif.

Roedd caeau yn Islington oedd yn llawn o wartheg godro a llaeth yn cael ei gludo mewn i'r ddinas i'w ddosbarthu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Byddai porthmyn Cymru yn dod i Smithfield yn gyson i werthu cig Cymreig

Ond nid cymuned Gymraeg Llundain ei hun yn unig chwaraeodd ran yn niwydiant llaeth a chig y ddinas - roedd porthmyn Cymru yn ymwelwyr cyson hefyd â marchand Smithfield gan arwain defaid, gwartheg a hyd yn oed gwyddau ar hyd y ffordd o Gymru i Smithfield yn gyson.

Gwleidyddiaeth a'r Gymraeg yn Downing Street

Ffynhonnell y llun, Leon Neal
Disgrifiad o’r llun,
Cerflun Lloyd George yn ystod protest amgylcheddol yn 2019

Rhyfedd meddwl mai Cymraeg oedd iaith yr aelwyd yn 10 Downing Street rhwng 1916-1922 pan roedd David Lloyd George yn brifweinidog a'i wraig Margaret ac yntau yn magu eu teulu yn Gymraeg yng nghalon sefydliad gwleidyddol Llundain.

Yma byddai'r Megan Lloyd George ifanc yn diddanu arweinwyr byd drwy ganu iddynt yn Gymraeg.

Mae cenedlaethau o wleidyddion o Gymru wedi eistedd ym Mhalas San Steffan. Mae 40 aelod seneddol o Gymru yno ar hyn o bryd.

Tŷ Gwydyr yn Whitehall yw cartref swyddogol Swyddfa Cymru a chyn hynny, y Swyddfa Gymreig, ers 1971.

Ogi! Ogi! Ogi!

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ond wedi dweud hyn i gyd, mae'n bosib mai dim ond un peth fydd ar eich meddwl ar ddiwrnod gêm, sef rygbi.

Felly os nad ydych chi eisiau gwybod affliw o ddim am hanes, diolch yn fawr, efallai nad oes raid ichi fynd ddim pellach na Chlwb Rygbi Cymry Llundain yn Old Deer Park, Richmond, tua thair milltir o Twickenham.

Yma mae cartref côr y clwb hefyd a bydd deuddydd o ddathlu yma dros benwythnos gêm Cymru - Lloegr gan gynnwys noson gabaret, cinio gala dan arweiniad Shane Williams ac, wrth gwrs, dangosiad o'r gêm os nad oes tocyn i Twickenham yn eich poced.

Hefyd o ddiddordeb: