Y sialens o achub Y Cymro

  • Cyhoeddwyd
Papurau newydd Y Cymro dros y degawdauFfynhonnell y llun, .

Ddwy flynedd yn ôl, wedi ymgyrch i achub yr unig bapur newydd cenedlaethol Cymraeg, prynwyd ac ail-lansiwyd Y Cymro. Ond tu ôl i'r penawdau, beth oedd y stori?

"Be' ydi'r sialens fwya'? Mae o i gyd yn sialens rili, pob darn ohono."

Mae wedi bod yn gyfnod o ddysgu wrth fynd ymlaen i Gruffydd Meredith yn ddiweddar. Fo ydi un o'r criw oedd yn y newyddion yn 2017-18 wrth geisio achub unig bapur newydd cenedlaethol Cymru.

Wedi i gwmni Tindle Newspapers gyhoeddi eu bod am ddod â phapur wythnosol Y Cymro i ben, gan roi diwedd ar draddodiad o 85 mlynedd, bu cyfarfodydd cyhoeddus a thrafodaethau yn y cyfryngau i geisio dod o hyd i brynwr.

Sefydlwyd Cyfeillion Y Cymro, wnaeth brynu'r papur am ffi bychan - ac wyth mis wedi i'r rhifyn olaf ddod o'r wasg, fe gafodd ei ail-lansio fel papur misol ym mis Mawrth 2018.

Disgrifiad o’r llun,
Rhifyn cyntaf Y Cymro ar ei newydd wedd

"Mae'n sialens ond yn sialens ddymunol hefyd achos mae'n beth braf i wneud, cael papur cenedlaethol allan," meddai Gruffydd Meredith, un o gyfarwyddwyr y cwmni newydd.

"Mae o wedi bod yn lot o waith - yn enwedig ar y dechrau a lot o betha ro'n i'n ddysgu o scratch.

"Ro'n i wedi sefydlu gwefan Daily Wales cyn hynny, a rhedeg hwnna am flwyddyn a hanner felly o ran y gwaith, roedd gen i rywfaint o brofiad. Ond o ran setio fyny popeth, y dosbarthu, y pethau technegol sydd angen eu sortio, sut mae'n cael ei argraffu... roedd o'n waith llawn amser."

Gruffydd Meredith
Llun cyfrannwr
Roedda ni'n gwybod bod o'n mynd i fod yn waith caled a wnaetho ni ddim cymryd yn ganiataol bod pobl am ein helpu ni yn ddi-gwestiwn
Gruffydd Meredith
Cyfarwyddwr Y Cymro

Dywed Gruffydd, sy'n berchen ar label cynhyrchu cerddoriaeth Tarw Du, mai un o'r pethau pwysicaf i'w wneud ar y cychwyn oedd dysgu am ddosbarthu.

Mae'n dweud eu bod wedi bod yn ffodus o allu penodi rhywun profiadol i ysgwyddo'r baich golygyddol - ond waeth pa mor dda ydi cynnwys unrhyw bapur, mae'n rhaid i bobl fedru ei brynu.

Meddai: "Wnaethon ni drafod efo'r perchnogion cynt i gael gwybod mwy ac roedden nhw'n help, ond 'da ni wedi dechrau o scratch i raddau achos roedd Tindle Newspapers yn gwmni mwy. Hefyd 'dan ni'n dosbarthu i Gymru yn unig felly 'dan ni wedi setio system unigryw mewn ffordd.

"Lwyddon ni i gael Y Cymro fewn i Tesco yng Nghymru. Nes i jest mynd atyn nhw a'u haslo nhw - tracio'r person iawn a gwerthu'r syniad iddyn nhw. Maen nhw wedi bod yn frwdfrydig iawn chwarae teg."

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Meredydd
Disgrifiad o’r llun,
Cefnogwyr Y Cymro yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Ar un cyfnod roedd gan Y Cymro gryn statws fel papur newydd Cymraeg - gyda gwerthiant yn cyrraedd 27,000 o dan olygyddiaeth John Roberts Williams wedi'r Ail Ryfel Byd.

Erbyn 2017, dim ond tua 2,000 o gopïau oedd yn cael eu gwerthu.

Er hyn, ac er bod nifer yn cwestiynu'r angen am bapur newydd o gwbl yn yr oes ddigidol, pan gyhoeddwyd bod Y Cymro yn dod i ben roedd nifer yn dweud pa mor bwysig oedd ei achub.

Ai geiriau gwag oedd y rheiny neu a ddaeth cefnogaeth ymarferol hefyd?

"Wnaethon ni setio fyny cwmni yn syth i'w ffurfioli a'i wneud o'n swyddogol," meddai Gruffydd. "Doedd o ddim jest fel gang o bobl yn cael chat mewn pyb.

"Roeddan ni'n gwybod bod o'n mynd i fod yn waith caled a wnaethon ni ddim cymryd yn ganiataol bod pobl am ein helpu ni yn ddi-gwestiwn. Wnaethon ni wneud y gwaith ein hunain i raddau ond wedi dweud hynny mae'r gefnogaeth a'r ewyllys da wedi bod yno."

Mae un o'i gyd-gyfarwyddwyr yn cytuno bod cefnogaeth gref gan nifer o bobl i'r Cymro - ond fel dyn busnes mae'n gwybod bod angen mwy na hynny.

Iestyn Jones
Llun cyfrannwr
Mae pobl Cymru yn gweld Y Cymro fel rhyw gyn-gariad maen nhw'n gallu mynd nôl ati a fydd hi dal yna
Iestyn Jones
Cyfarwyddwr Y Cymro

Rhedeg cwmni lladd chwyn mae Iestyn Jones ac mae'n dweud ei fod yn ddiolchgar i'r Cyngor Llyfrau am grant i helpu'r papur barhau ond bod angen mwy o gefnogaeth ar lawr gwlad.

Meddai: "Mae pobl Cymru yn gweld Y Cymro fel rhyw gyn-gariad maen nhw'n gallu mynd nôl ati a fydd hi dal yna - maen nhw'n meddwl bydd Y Cymro bob tro yna, ond mae'n rhaid i ni fod yn realisitig.

"Fel cyfarwyddwr dwi'n gallu gweld pan mae pethau'n mynd i fod yn andros o dynn o ran arian a 'da ni'n gorfod dibynnu ar ewyllys da pobl, sy'n gallu bod yn lletchwith. Maen nhw'n cael minimal fee neu fod yn gorfod disgwyl i gael eu talu achos mae pethau'n dynn.

"Heb y grant gan y Cyngor Llyfrau fyddai'r Cymro ddim yn gallu bodoli. Break even ydan ni. Felly dwi ddim yn gwneud dim pres, na Gruff na neb - mae jest digon i dalu Barrie y golygydd.

"Mae'n rhaid i bobl ei brynu fo - allwn ni ddim cymryd yn ganiataol y bydd o'n parhau, os ydi'r ffigurau yn mynd yn isel ella wnaiff y Cyngor Llyfrau ddweud 'allwn ni ddim cyfiawnhau'r grant'."

A'r dyfodol? Mae'r tîm yn gobeithio datblygu'r ochr ddigidol ond yn credu bod parhau i gael papur allan bob mis yn bwysig.

Barrie Jones
Llun cyfrannwr
Mae'n rhaid cael rhyw blatfform ariannol sy'n gwneud y peth yn bosib. All o ddim mynd ymlaen ac ymlaen dim ond ar ewyllys da
Barrie Jones
Golygydd Y Cymro

Mae'r golygydd Barrie Jones, sydd wedi gweithio am flynyddoedd yn y diwydiant papurau newydd yng ngogledd Cymru, yn ymwybodol iawn o'r her sy'n wynebu pob papur newydd gyda'r esgid yn gwasgu wrth gystadlu gyda'r we am ddarllenwyr a hysbysebwyr.

Meddai: "Fydden ni'n hoffi gallu gwneud mwy, ond tydi rhedeg papur ddim yn rhad, a band un dyn ydi'r Cymro i raddau.

"Mae lot o ewyllys da tuag at Y Cymro. Mae pobl yn cydnabod bod o wedi bod yn rhan o hunaniaeth Cymru a ddim eisiau ei weld yn dod i ben, ond maen un peth i ddweud bod rhaid iddo gario ymlaen ond yn y byd masnachol mae'n rhaid cael rhyw blatfform ariannol sy'n gwneud y peth yn bosib.

"All o ddim mynd ymlaen ac ymlaen dim ond ar ewyllys da."

Hefyd o ddiddordeb: