'Dyna i gyd maen nhw mo'yn yw rhywle saff i fyw'

  • Cyhoeddwyd
Gwersyll yn CalaisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r ffoaduriaid yn Calais yn byw mewn pebyll heb fawr ddim cyfleusterau

'Nonsens' yw'r syniad gan y cyhoedd fod ffoaduriaid eisiau dod i Brydain i gael budd-daliadau neu mynediad i wasanaeth y Gwasanaeth Iechyd.

Dyna farn meddyg teulu o Gaerdydd sydd newydd ddychwelyd o ardal Calais ar ôl bod yn helpu ffoaduriaid.

"Sdim syniad gyda hanner ohonyn nhw sut mae'r NHS yn gweithio", meddai Dr Heledd Jones.

Maen nhw'n fwy cyfarwydd â system eu hunain ac mae nifer ohonyn nhw efo gwasanaeth iechyd gwell na ni o ran gweld cleifion yn enwedig y rhai sydd ag arian o lefydd fel Iran.

Roedd y 'Jyngl' fel roedd y gwersyll ffoaduriaid ger Calais yn cael ei alw, yn y newyddion yn gyson bum mlynedd yn ôl. Ond mae yna bobl yn dal i fyw yn y cyffiniau ers iddo gael ei ddymchwel yn 2016.

"Dyw'r broblem ddim wedi mynd, jest dim bod un lle arbennig ble maen nhw i gyd yn aros."

Mae'r enw 'Jyngl' wedi parhau meddai gyda gwersyll answyddogol wedi ei sefydlu ar ochr y ffordd yn agos i'r hen un a phocedi o geiswyr lloches eraill yn byw o gwmpas y dref. Mae'n dweud bod y rhai sydd wedi cyrraedd Calais yn tueddu i aros mewn grwpiau ethnig gyda'i gilydd.

"Yn Calais roedd yna ardal o'n i yn galw yn Afghan roundabout ble roedd rhan fwyaf o rheina yn dod o Afghanistan. Oedd y jyngl yn fwy mixed ond oedd mwy falle o Affrica nag oedd o wledydd y dwyrain," meddai.

Ffynhonnell y llun, Heledd Jones
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Heledd a'r criw wedi casglu rhoddion o ddillad i fynd gyda nhw i Ffrainc

"Oedden ni yn helpu mas yn y jyngl yn Calais ei hunan, jest pethau bach fel cuts, rashes.

"Mae lot ohonyn nhw gyda phroblemau gyda phethau fel scabies ond sdim ffordd gyda ni eu trin nhw," gan esbonio bod y pryfed bach sy'n achosi'r haint yn bla a'u bod yn methu golchi'r eli ar ôl iddo gael ei roi ar y briwiau fel y mae'n ofynnol am nad oes ganddyn nhw gyfleusterau ymolchi.

Yn ol yr elusen FAST First Aid Support Team sef yr elusen yr aeth Heledd i Ffrainc gyda nhw roedd tua mil o ffoaduriaid yn Calais ym mis Chwefror a 600 o ffoaduriaid yn Dunkirk.

'Gorfod torri'r gyfraith'

"Roedd yna drawsdoriad o bobl yn Calais ond mwy o ddynion yn eu 20au a 30au am eu bod yn gorfod bod yn ddigon cryf i fyw mewn amgylchiadau anodd," meddai Heledd Jones.

"Ffoi am sawl rheswm fel rhyfel, cael eu herlid am resymau crefyddol neu wleidyddol neu drais yn sgil eu rhyw maen nhw," meddai wedyn.

Yn ôl ffigyrau 2018 gan asiantaeth ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig (UNHCR) mae tua 84% o ffoaduriaid yn byw mewn rhanbarthau sy'n datblygu, nid gwledydd diwydiannol cyfoethog.

Yn yr Undeb Ewropeaidd Yr Almaen, oedd y wlad wnaeth dderbyn y nifer uchaf o geisiadau y llynedd (bron 160,000) gyda Phrydain yn chweched (bron 40,000).

Er mwyn gwneud cais i gael aros mewn gwlad mae'n rhaid cyrraedd y wlad honno cyn dechrau'r cais.

"Mae hynny yn golygu bod nifer yn gorfod torri'r gyfraith i gyrraedd," meddai Heledd Jones.

Ffynhonnell y llun, Heledd Jones
Disgrifiad o’r llun,
Fe aeth Heledd Jones (dde) i helpu ffoaduriaid am y tro cyntaf ym mis Mai y llynedd

Fe ddaeth hi ar draws pobl o wahanol wledydd gan gynnwys De Sudan, Iran, Irac, Senegal, Afghanistan, a Congo.

'Plant ar ben eu hunain'

"Oedd un bachgen 16 oed nes i siarad ag o o Dde Sudan," ychwanegodd Heledd. "Oedd e wedi dod trwy Libya ac oedd o fel bod e wedi cael amser gwael yna. Oedd anaf ar ei fraich e. Oedd e wedi gorfod aros yn yr ysbyty yn yr Eidal am time bach gyda hwnna. Oedd e yna ar ben ei hun. Oedd ffrindiau a theulu gyda fe ym Mhrydain. Dyna pam oedd e'n trio dod i Brydain."

Yn Dunkirk fe ddaethon nhw ar draws tua 30 o deuluoedd oedd yn byw mewn pebyll. Mae'r pebyll wedi eu lleoli mewn adfail hen adeilad heb waliau na tho. Yn eu plith roedd plentyn 8 oed oedd wedi cael hoelen trwy ei droed.

"Oedd e wedi mynd i'r ysbyty i gael hwnna wedi sortio. Ond oedd y bandage yn fochaidd so wnaethon ni newid hwnna iddo fe."

Roedd yna dad hefyd gyda dau o'i blant, un oedd gyda thwll yn ei chalon ac roedd y tad eisiau gwneud cais lloches iddyn nhw aros yn Ffrainc.

"Oedd y tad wedi mynd i gwrdd â'r bobl oedd yn mynd i helpu fe i roi enw mewn am asylum. Oedd yr heddlu wedi mynd a fe... Oedd y ddau blentyn bach yn y babell trwy'r dydd ar ben eu hunain. Oedd y lleill yn edrych ar eu hôl nhw ond oedd neb yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddo fe."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yna gampfa yn Dunkirk lle'r oedd teuluoedd wedi cael caniatâd i aros gan y dref y llynedd ond nawr mae'r gampfa wedi cau a'r bobl yn byw mewn adfail adeilad

Ar ddiwedd y diwrnod fe ddaeth y tad yn ôl gyda'r ffurflenni perthnasol er mawr ryddhad i bawb.

Yn ôl adref ers ychydig ddyddiau mae'n dweud ei bod yn teimlo rhyw bellter oddi wrth yr hyn a welodd yn Calais a Dunkirk "am fod y realiti allan yno mor wahanol i mywyd fan hyn.

"Fi'n trial peidio meddwl gormod ac mae'n well gyda fi weithredu mewn ffordd ymarferol, "meddai. Mae hyn yn cynnwys ceisio addysgu eraill o realiti yr hyn sy'n digwydd a chodi ymwybyddiaeth fel bod pobol yn meddwl am y ffordd mae cymdeithas yn trin ffoaduriaid.

"Yn arbennig yn y maes meddygol ble dwi'n gweithio gan fod tystiolaeth yn dangos fod yna anghyfartaledd mawr o ran iechyd rhwng y ffoaduriaid a'r boblogaeth frodorol."

Dyw Heledd Jones ddim yn gweld y sefyllfa ffoaduriaid yn newid yn y dyfodol. "Tra bod problemau i gael yn y byd mae pobl yn naturiol yn mynd i chwilio am rywle saff i godi teulu a byw. Dyna i gyd maen nhw mo'yn yw rhywle saff."