Cymru yn paratoi i wynebu'r hen elyn yn Twickenham

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mike Phillips yn cofio'r fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr yn 2008

Cymru v Lloegr, cic gyntaf am 16:45 ddydd Sadwrn, 7 Mawrth - yn fyw ar S4C a BBC Radio Cymru

Bydd Cymru yn gobeithio osgoi colli eu trydydd gêm yn olynol am y tro cyntaf ers haf 2016 pan fyddan nhw'n teithio i Twickenham ddydd Sadwrn.

Dywed y prif hyfforddwr, Wayne Pivac fod ymarferion yr wythnos yma wedi ei argyhoeddi bod perfformiad mawr ar ei ffordd yn erbyn Lloegr.

"Mae lefel y dwyster wedi cynyddu'n amlwg yn yr ymarferion," meddai Pivac.

"Does neb wedi bod yn dal yn ôl. Mae hynny'n dweud wrtha i fod perfformiad mawr yn dod."

Ffynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,
Jonny Wilkinson yn rhoi gair o gyngor i George Ford ac Owen Farrell yn ymarfer Lloegr ddydd Mercher

Dywed Pivac fod y capten Alun Wyn Jones wedi bod wrth galon yr ymdrechion cyn y gêm.

"Does dim ond rhaid i chi wrando ar Alun Wyn yn ystod yr wythnos," meddai Pivac.

"Mae'r dwyster yno yn ei lais a phopeth y mae wedi'i wneud wrth ymarfer. Mae wedi arwain o'r blaen."

Yn y cyfamser, mae Alun Wyn - a fydd yn ennill cap rhif 147 ddydd Sadwrn - wedi mynnu bod y maswr Dan Biggar yn holliach.

Bu'n rhaid i Biggar - sy'n cychwyn ddydd Sadwrn - adael y cae yn yr hanner cyntaf tra'n chwarae i Northampton y penwythnos diwethaf gydag anaf i'w ben-glin.

Roedd hefyd wedi derbyn ergyd i'w ben yn y golled i Ffrainc yn Stadiwm Principality wythnos cyn hynny.

"Dydw i ddim yn ddoctor... ond mi fydd [Biggar] yn chwarae," meddai Alun Wyn.

Ffynhonnell y llun, David Rogers
Disgrifiad o’r llun,
Bu'n rhaid i Dan Biggar adael y cae oherwydd anaf tra'n chwarae i Northampton ar 29 Chwefror

Mae pedwar newid i'r tîm i herio Lloegr, gyda Liam Williams yn dychwelyd ar ôl anafu ei ffêr yn erbyn De Affrica yng Nghwpan y Byd - pedwar mis yn ôl.

Bydd yn cymryd lle Josh Adams ar yr asgell, wedi iddo anafu ei ffêr yn y gêm yn erbyn Ffrainc.

Y tri newid arall yw Tomos Williams, Josh Navidi a Rob Evans yn lle Gareth Davies - sydd allan o'r 23 yn gyfan gwbl - Taulupe Faletau ac Wyn Jones.

Bydd George North hefyd yn cadw'i le ar yr asgell ar ôl dod dros gyfergyd a gafodd yn erbyn y Ffrancwyr.

Tîm Cymru

Leigh Halfpenny; George North, Nick Tompkins, Hadleigh Parkes, Liam Williams; Dan Biggar, Tomos Williams; Rob Evans, Ken Owens, Dillon Lewis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (capt), Ross Moriarty, Justin Tipuric, Josh Navidi.

Eilyddion: Ryan Elias, Rhys Carre, Leon Brown, Aaron Shingler, Taulupe Faletau, Rhys Webb, Jarrod Evans, Johnny McNicholl.

Tîm Lloegr

Elliot Daly; Anthony Watson, Manu Tuilagi, Owen Farrell, Johnny May; George Ford, Ben Youngs; Joe Marler, Jamie George, Kyle Sinckler, Maro Itoje, George Kruis, Courtney Lawes, Marc Wilson, Tom Curry.

Eilyddion: Luke Cowan-Dickie, Ellis Genge, Will Stuart, Joe Launchbury, Charlie Ewels, Ben Earl, Willi Heinz, Henry Slade.