Cyn ganolwr Cymru yn marw yn 41 oed

  • Cyhoeddwyd
Matthew J WatkinsFfynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,
Matthew J Watkins yn chwarae i Gymru yn 2006 yn yr Ariannin

Bu farw Matthew J Watkins, cyn ganolwr tim rygbi Cymru, yn 41 oed.

Fe enillodd yr olaf o'i 18 cap i Gymru yn 2008.

Yn 2013 fe gyhoeddwyd bod ganddo fath prin o ganser y pelfis, ac yn ddiweddar bu'n helpu codi arian ar gyfer Canolfan Ganser Cymru yn Felindre.

Chwaraeodd 150 o gemau yng nghrys y Scarlets rhwng 2002 a 2008, gan sgorio 42 cais.

Mewn datganiad dywedodd y Scarlets bod pawb sy'n gysylltiedig â Rygbi Scarlets yn meddwl am ei wraig Stacey a'i ddau fab, Siôr a Tal.

Bydd Watkins yn cael ei gofio gan lawer o gefnogwyr am ei chwarae creadigol ymhlith yr olwyr.

Fe sgoriodd e gais yn erbyn Ulster ar Barc y Scarlets yn 2003-04 wrth iddo helpu'r Scarlets ennill y Gynghrair Geltaidd.

Bu'n chwarae i Drecelyn, Pontllanfraith a Chasnewydd yn ogystal â rhanbarth y Dreigiau, a Chaerloyw.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,
Matthew J Watkins yn chwarae i Gymru yn 2006 yn yr Ariannin