Heddlu gwrth-derfysgaeth yn arestio dyn 54 oed

  • Cyhoeddwyd
heddlu
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r heddlu yn ymchwilio i droseddau yn ymwneud â ffrwydron

Mae dyn 54 oed wedi cael ei arestio gan uned gwrth-derfysgaeth heddlu'r de.

Arestiwyd y dyn yng ngogledd Caerdydd, ac ar ol cael ei holi gan dditectifs ym Mhen-y-bont, cafodd ei ryddhau ar fechniaeth.

Dywedodd Noel Harris, pennaeth yr uned gwrth-derfysgaeth: "Mae Caerdydd yn ddinas ddiogel dros ben. Mae'r gymuned yng Nghaerdydd wedi gwrthod yn gyson safbwyntiau eithafol ac

rydym yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth."

Cafodd y dyn ei holi mewn cysylltiad â throseddau yn ymwneud â ffrwydron ar ol cael ei arestio mewn cyfeiriad yn ardal Draenen Pen y Graig (Thornhill).

Pwysleisiodd yr heddlu nad oes risg i unrhyw adeiladau cyfagos.