Y Bencampwriaeth: Barnsley 0-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Callum Paterson celebratesFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,
Callum Paterson yn dathlu

Mae gobeithion Caerdydd o gyrraedd y gemau ail gyfle wedi gwella ar ôl iddyn nhw guro Barnsley, y tîm sydd ar waelod y Bencampwriaeth.

Sgoriodd y Cymro Will Vaulks a'r Albanwr Callum Paterson gôl yr un yn ail hanner.

Fe ddaeth y cyffro i gyd o fewn dau funud - Vaulks yn sgorio ar ôl 65 munud a Paterson yn ychwanegu'r ail ar ôl 66 munud.

Yn gynharach fe wastraffodd Junior Hoilett gyfle da i roi Caerdydd ar y blaen.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn nawfed ac o fewn dau bwynt i'r safleoedd ar gyfer y gemau ail gyfle.

Bydd yr adar gleision yn wynebu Leeds United, y tîm sydd ar frig yr adran, yng Nghaerdydd y penwythnos nesaf.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Nelson a Bacuna yn brwydro am y bêl