Y Bencampwriaeth: West Brom 0-0 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Joe RodonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Anaf cas i ben Joe Rodon wrth iddo rwystro ymosodwyr West Brom

Mae Abertawe yn parhau i fod o fewn cyrraedd i'r gemau ail gyfle ar ôl gem gyfartal yn West Bromwich Albion.

Roedd hi'n gêm rwystredig i'r tîm cartref wrth iddyn nhw ildio eu lle ar frig y Bencampwriaeth i Leeds United.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd - ond Abertawe gafodd y cyfleoedd gorau.

Roedd yna beniad bygythiol gan Joe Rodon, ac fe gafodd Andre Ayew gyfle i fanteisio ar un o ymdrechion Rhian Brewster.

Ond bydd Abertawe yn fodlon a'r pwynt a'u perfformiad ar ôl rheoli llawer o'r meddiant ac atal eu gwrthwynebwyr rhag sgorio.

Mae Abertawe yn 11eg yn y Bencampwriaeth, tri phwynt yn unig o safleoedd y gemau ail gyfle.