Dim Joe Allen i Gymru yn Ewro 2020

  • Cyhoeddwyd
Joe Allen leaves on a stretcherFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,
Joe Allen yn cael ei gario o'r maes

Mae chwaraewyr canol cae Cymru Joe Allen wedi cael anaf difrifol sy'n golygu na fydd e ar gael i chwarae i Gymru yng nghystadleuaeth Ewro 2020.

Roedd Allen ymhlith arwyr Cymru yn y gystadleuaeth yn Ffrainc yn 2016, ond cafodd ei gario o'r cae ar cael cael anaf yn chwarae i Stoke City brynhawn Sadwrn.

Cafodd y newyddion ei gadarnhau gan reolwr Stoke Michael O'Neill : "Mae wedi rhwygo ei gewyn Achilles, cafodd ei helpu o'r cae cyn hanner amser."

Mae disgwyl i Allen, 29 oed, gael llawdriniaeth yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae'n ergyd enfawr i dim Ryan Giggs wrth i Gymru baratoi ar gyfer dechrau'r gystadleuaeth ym mis Mehefin.