Adran Dau: Casnewydd 1-0 Morecambe

  • Cyhoeddwyd
Jamille MattFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Casnewydd wedi codi i'r 15fed safle yn yr ail adran ar ôl curo Morecambe mewn gem agos.

Casnewydd gafodd y cyfleoedd gorau, ac fe ddaeth unig gôl y gêm hanner ffordd drwy'r ail hanner, wrth i Dale Gorman sgorio.

Yn gynharach fe wrthodwyd cais gan Gasnewydd am gic o'r smotyn.