Rhybudd am wynt a glaw i Gymru

  • Cyhoeddwyd
map
Disgrifiad o’r llun,
Rhagolwg y swyddfa dywydd o'r glaw yng Nghymru dydd Llun

Mae'r swyddfa dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn ar gyfer glaw trwm a gwyntoedd cryfion ar gyfer dydd Llun a dydd Mawrth.

Fe allai'r tywydd gwlyb achosi llifogydd a thrafferthion i deithwyr, ac mae rhai toriadau i gyflenwadau trydan yn debygol.

Bydd y gwynt a'r glaw yn lledu dros y wlad brynhawn Llun ac yn parhau tan brynhawn Mawrth.

Mae disgwyl glaw trwm dros dir uchel yn enwedig, rhwng 25mm a 50mm, ac fe allai rhai ardaledd gael hyd at 90mm o law.

Fe allai'r glaw trwm iawn achosi trafferthion ar dir uchel yn y canolbarth ac mewn rhannau o'r de.