Gollwng cynllun dadleuol ond Cymru'n dal i golli wyth AS

Ty'r Cyffredin
Image caption Syniad y Prif Wenidog yn 2012, David Cameron oedd lleihau costau trwy gael llai o ASau

Bydd Cymru yn dal yn colli tua wyth Aelod Seneddol er i Lywodraeth y DU ollwng cynllun i ostwng nifer yr aelodau yn Nhŷ'r Cyffredin o 650 i 600.

Dan y cynllun gwreiddiol roedd yna fwriad i gael 29 etholaeth yng Nghymru yn hytrach na'r 40 presennol.

Cyhoeddodd Gweinidog Swyddfa'r Cabinet, Chloe Smith ddydd Mercher nad yw'r llywodraeth yn bwrw ymlaen â'r cynigion mwyach, gan fod angen y nifer cyfredol o ASau i ddelio â'r llwyth gwaith yn San Steffan oherwydd Brexit.

Ond gan fod bwriad o hyd i sicrhau fod pob etholaeth â nifer cyfartal o etholwyr, fe fydd angen ail-lunio'r map etholaethol ac mae hynny'n golygu amcangyfrif o oddeutu 32 o seddi yng Nghymru.

Mae'r llywodraeth hefyd yn dymuno adolygu ffiniau etholaethol bob wyth mlynedd yn lle bob pum mlynedd.

Image copyright Y Comisiwn Ffiniau
Image caption Map y Comisiwn Ffiniau o 2017 yn dangos y 29 etholaeth arfaethedig

Roedd AS Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth wedi ymgyrchu yn erbyn y cynigion gwreiddiol oedd yn awgrymu uno'r etholaeth ag ardal o amgylch Bangor.

Byddai'r rheiny, meddai, wedi amddifadu Môn o statws a fyddai wedi gwarchod ynysoedd eraill yn y DU, fel Ynys Wyth a'r Ynysoedd Gorllewinol Yr Alban.

Dywedodd fod "ceisiadau i drin Ynys Môn mewn ffordd debyg wedi cael eu hanwybyddu".

'Angen lleihau Tŷ'r Arglwyddi yn hytrach'

Mae'r Gymdeithas Diwygio Etholaethol wedi croesawu cadw 650 AS yn San Steffan am y tro, gan ddweud y byddai'r newidiadau arfaethedig wedi "tanseilio lleisiau pobl gyffredin yn y Senedd a niweidio craffu democrataidd".

Ond yn ôl eu prif weithredwr, Darren Hughes, mae angen "diwygiad llwyr o sut mae democratiaeth y DU yn gweithio" unwaith y daw'r pandemig coronafeirws i ben.

"Heb leihau maint y Llywodraeth [yn ogystal], byddai cael llai o ASau wedi... cryfhau pwerau gweinidgoion sydd eisoes yn anghymesur," meddai.

Mae'n galw yn hytrach am gael llai o aelodau yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Straeon perthnasol