Rishi Rish

Mae'n siŵr eich bod chi, fel fi, wedi profi'r llawn ystod o emosiynau'r wythnos hon. Tristwch, pryder, hiraeth am normalrwydd a hyd yn oed dicter at y rheiny sy'n anwybyddu eu diogelwch nhw eu hun ac eraill.

Mae pob argyfwng wrth reswm yn amlygu'r gorau a'r gwaethaf mewn pobl ac mae rhai o'n harweinwyr gwleidyddol yn cwrdd â'r her yn well nac eraill.

Cymerwch y Canghellor, Rishi Sunak. Deufis yn ôl doedd yr enw yna ddim yn gyfarwydd i fawr neb. Nawr mae'n cael ei ganmol am ei ymateb i'r argyfwng gyda hyd yn oed Bernie Sanders yn ffan o'r canghellor Ceidwadol.

Un gwyn gyson ynghylch Boris Johnson yw nad yw e mewn gwirionedd yn credu mewn unrhyw beth ar wahân iddo fe'i hun. Gwir ai peidio, mae'n bosib bod diffyg ymrwymiad ideolegol yn fanteisiol yn y sefyllfa bresennol.

I bob pwrpas mae'r mesurau economaidd a gyflwynwyd dan y canghellor yn gyfystyr â gwladoli rhan helaeth o'r economi, am gyfnod o leiaf, gan gynyddu gwariant cyhoeddus fel canran o'r economi i lefelau nas gwelwyd eu tebyg o'r blaen.

Churchill yw arwr Johnson, mae'n debyg, ond mae 'na adlais o Attlee yn y polisïau sy'n cael eu dilyn ar hyn o bryd.

Ronald Reagan wnaeth ddweud mai'r geiriau mwyaf brawychus yn yr iaith Saesneg yw "I'm from the government and I'm here to help". Mae gwleidyddion y dde wedi credu hynny byth ers i'r Gipper wneud yr honiad.

Dim heddiw. Dim nawr. Tybed pa 'wirioneddau' eraill fydd yn troi mas i fod yn gau dros yr wythnosau a misoedd nesaf?