Covid-19: Jamie Roberts yn dychwelyd adref o Dde Affrica

Jamie Roberts yn ystod un o'i gemau gyda thîm Stormers Image copyright Getty Images
Image caption Jamie Roberts yn ystod un o'i gemau gyda thîm Stormers

Mae canolwr Cymru, Jamie Roberts yn dychwelyd adref o Dde Affrica gan hedfan o'r wlad cyn i gyfyngiadau llym ddod i rym yna mewn ymateb i'r pandemig coronafeirws.

Ymunodd Roberts, sydd hefyd wedi cymhwyso fel meddyg, â chlwb Stormers ym mis Ionawr, yng nghanol ei ail dymor gyda Chaerfaddon.

Dywedodd ar ei gyfrif Twitter mai'r peth gorau oedd "bod adref yn y DU yn ystod y cyfnod digynsail yma".

Roedd wedi chwarae 10 gêm i'w dîm newydd cyn y penderfyniad i ohirio gemau cynghrair Super Rugby.

Llwyddodd y canolwr i gael lle ar hediad o'r wlad oriau cyn i'r rheolau newydd ddod i rym am 00:00 nos Iau, 26 Mawrth.

Mewn sylwadau ar 21 Mawrth, dywedodd Roberts y byddai'n hunan ynysu am bythefnos petai'n dychwelyd i'r DU.

Mae eisoes wedi gadael i feddyg y GIG aros yn ei fflat yng Nghaerdydd fel rhan o'r ymdrech i fynd i'r afael â'r haint.

Straeon perthnasol