Ymlediad Covid-19 yn 'llai na'r disgwyl pan osodwyd targed'

  • Cyhoeddwyd
gwisgo masgFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae haint coronafeirws wedi ymledu ar raddfa lai na'r disgwyl pan osodwyd targed o 5,000 o brofion Covid-19 y dydd erbyn canol Ebrill, medd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething.

Bellach mae'r targed, oedd wedi ei osod ar ddiwedd mis Mawrth, wedi ei hepgor gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Mr Gething fod gweinidogion o'r farn y byddai lefelau ymlediad yr haint yng Nghymru yn "llawer uwch".

Mae Plaid Cymru wedi ymateb yn chwyrn i sylwadau Mr Gething, gan ofyn sut oedd yn gallu dweud hyn os nad oedd profion yn cael eu cynnal ar raddfa eang.

Mae'r gwrthbleidiau wedi barnu Llywodraeth Cymru am fethu â chyrraedd y targed ac yna hepgor y targed yn llwyr.

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Vaughan Gething eu bod wedi cael trafferth mewnforio'r offer ar gyfer y profion

Ar hyn o bryd mae Cymru'n gallu cynnal 1,300 o brofion y dydd, ond nid yw'r holl gapasiti yma wedi ei ddefnyddio.

Roedd cwynion fod y system yn or-fiwrocrataidd a chymhleth - ac mewn ymateb fe ddaeth addewid gan weinidogion y byddai'r drefn yn cael ei symleiddio, gyda chymorth cynllunwyr milwrol.

PPE 'yn flaenoriaeth'

Yn ystod diweddariad dyddiol y llywodraeth ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gething fod sicrhau cyflenwad o gyfarpar diogelwch PPE "yn fwy o flaenoriaeth" na'r sialensiau ynghylch profi am Covid-19.

Mae digon o stoc i bob eitem bara am "ychydig ddyddiau" meddai, ond ychwanegodd nad oedd modd iddo allu dweud y byddai'r rhain ar gael "am wythnosau ag wythnosau".

Dywedodd Mr Gething fod "pryderon gwirioneddol" am y mater o fewn y llywodraeth.

"Mae gennym ddigon o stoc o'r holl eitemau i bara am ychydig ddyddiau... ac mae hynny'n rhannol o achos y cymorth ar y cyd yr ydym wedi ei dderbyn o wledydd eraill y DU, yn rhannol am fod cyflenwadau o'r DU wedi dod i mewn ac rydym wedi derbyn ein cyfran ohonynt, ond nid ydym mewn sefyllfa i ddweud fod gennym wythnosau ag wythnosau o stoc o'r holl eitemau hyn," meddai.

"Dim ond am nad ydym yn y sefyllfa lle'r oedd Lloegr ynddi ar y penwythnos, nid yw hyn yn golygu nad oes unrhyw bryderon gwirioneddol yma ac maen nhw'n bryderon gwirioneddol o fewn y llywodraeth."

Problemau cyflenwadau

Wrth siarad ar raglen Claire Summers ar BBC Radio Wales fore Mawrth, dywedodd y Gweinidog Iechyd mai problemau caffael oedd yn gyfrifol am y rheswm pam fod Llywodraeth Cymru wedi methu eu targedau.

Dywedodd nad oedd modd i swyddogion fewnforio ystod eang o offer a chemegau oedd eu hangen "achos yn rhannol fod cystadleuaeth fyd-eang wedi bod sydd wedi cyfyngu ar gyflenwadau ymhellach", tra bod rhai gwledydd wedi cyfyngu ar allforio rhai nwyddau.

Ychwanegodd fod ymrwymiad parhaus i ehangu'r gwaith o brofi unigolion, "ond mae hyn am reswm gwahanol", meddai.

"Pan wnaethon ni gyhoeddi'r ffigwr o 5,000 a'n meddwl y bydden ni'n ei gyrraedd o fewn yr amserlen yna o bythefnos i dair wythnos, roedden ni'n credu y bydde na nifer llawer uwch o achosion o coronafeirws yn ymledu," meddai Mr Gething.

"Oherwydd y mesurau ymbellhau cymdeithasol... rydym wedi gostwng yn sylweddol yr achosion coronafeirws sy'n ymledu hyd yn oed yn fwy nag oedden ni wedi'i feddwl.

"Yr hyn sydd angen i ni ei wneud nesaf yw sicrhau ein bod yn defnyddio'r profion sydd gennym ni yn gywir, ag i ehangu ein cynllun profi achos mae'n rhaid i ni wneud hyn os ydym am ddod allan o'r cyfyngiadau presennol."

Ar hyn o bryd dim ond cleifion a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy'n dangos symptomau sy'n derbyn prawf Covid-19 yng Nghymru.

Galw am ymchwiliad

Mewn ymateb i sylw Vaughan Gething fod yr ymlediad yn llai na'r disgwyl yng Nghymru, dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru mewn neges ar Twitter: "Mae hyn yn codi'r cwestiwn sut y gallwn fod yn sicr am wir lefelau heintio pan rydym yn profi cyn lleied?

"Ac onid ydi cynyddu lefelau profi i 9,000 y dydd erbyn diwedd y mis hwn fel yr oedd wedi ei addo yn wreiddiol yn hanfodol i ail-gychwyn y gwaith o brofi yn y gymuned, sef yr hyn y gwnaeth Llywodraeth Cymru ei stopio ar Mawrth 13?"

Disgrifiad o’r llun,
Mae Adam Price eisiau ymchwiliad i'r ffordd mae Cymru wedi ymateb i'r pandemig

Mae Plaid Cymru wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus ar frys, wedi ei arwain gan farnwr, yn edrych ar yr ymateb i'r pandemig yng Nghymru.

Dywedodd Adam Price y dylai'r ymchwiliad gynhyrchu casgliadau cynnar erbyn diwedd yr haf.

Byddai themâu canolog yr ymchwiliad yn cynnwys lefelau paratoi, os oedd amser gwerthfawr wedi ei golli wrth baratoi ar gyfer darparu cyfarpar diogelwch PPE, yr angen am brofi, ac os oedd angen cyflwyno mesurau ymbellhau cymdeithasol a chyfyngiadau ar fywydau pobl yn gynt, meddai.

Llywodraeth yn anghytuno

Yn dilyn yr alwad gan Plaid Cymru am ymchwiliad, fe ddywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bnawn dydd Mawrth mai nid dyma oedd yr amser am y fath broses.

Dywedodd: "Ein blaenoriaeth a'n ffocws llwyr ar hyn o bryd yw i achub bywydau, sicrhau fod gan y gwasanaethau cyhoeddus yr adnoddau sydd eu hangen i ymateb i'r pandemig ag arwain Cymru drwy'r argyfwng hwn.

"Mae gan y Senedd ran bwysig i'w chwarae wrth graffu penderfyniadau a gweithredoedd Llywodraeth Cymru ar y pryd. "Fe ddaw yr amser, unwaith y byddwn wedi gwella o'r argyfwng, am ymchwiliad mwy dwys i'r pandemig ac i ymateb y llywodraeth."

Wfftio'r alwad am ymchwiliad cyhoeddus ar hyn o bryd mae'r Ceidwadwyr Cymreig.

Dywedodd Paul Davies AC, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad: "Mae'n hanfodol ein bod yn cael adolygiad yng Nghymru o effaith dinistriol Covid-19 ond mae'n llawer rhy gynnar i fod yn trafod ymchwiliadau.

"Nid dyma'r amser am y fath beth all dynnu sylw, gan fod yn rhaid i'r ffocws cyfoes fod ar ddinistrio coronafeirws a chefnogi pawb ar y rheng flaen sydd yn peryglu eu bywydau."