Rhosllannerchrugog - y pentref mawr gyda chalon anferth
Elen Wyn
Gohebydd BBC Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae trigolion Rhosllannerchrugog wedi hen arfer dringo elltydd, ac er bod gan bawb drwy'r wlad fynydd i'w ddringo'r dyddiau yma, mae gwydnwch y pentref yn amlwg.
Mae'r pentref ger Wrecsam yn le unigryw, ac yn ystod cyfnod argyfwng Covid-19 mae'r gymuned glos yma wedi dod at i gilydd fwy byth i ddangos fod 'pentref mwya' Cymru', fel y mae'n cael ei galw, â chalon anferth hefyd.
Mae caffi cymunedol Stryd y Farchnad wedi gorfod cau dros dro, a'i drawsnewid yn fanc bwyd, ac mae yna ddegau o bobol yn helpu i ddosbarthu'r bocsys.
Mae Alaw Haf ar gyfnod o'r gwaith fel model, ac felly rodd hi'n awyddus i ddefnyddio'r amser i helpu eraill.
Mae hi'n rhan o'r criw sy'n anfon y bwyd o gwmpas Rhos a phentrefi cyfagos.
"Mae'n neis gweld cymunedau gwahanol yn helpu ei gilydd, so dyna ydi main aim y caffi," meddai.
"Mae Mam a Dad wedi magu fi i helpu pobol eraill, so dwi jest yn falch dwi'n gallu neud rhywbeth."
Yn ôl trefnwyr y cynllun dosbarthu bwyd mae'r niferoedd sydd angen help yn cynyddu bob wythnos, a chwmnïau lleol a thu hwnt yn cyfrannu at yr achos.
Hynod o garedig
Un sydd yn derbyn pecyn bwyd yn gyson ydi Tegid Jones. Mae o'n hunan ynysu yn ei gartref ger y stryd fawr.
"Mae pawb mor glos ac yn agos at ei gilydd, a pobol yn hynod o garedig," meddai Mr Jones.
"Dwi'n hunan-ynysu, ond yn un sâl am wneud!
"Dwi'n mynd am dro i Rhos unwaith y dydd, i'r Co-op, ond fydd ddim rhaid i mi fynd rŵan. Maen nhw'n mor dda yn dydyn."
Gwirfoddolwraig arall ydi Sharon Parry. Mae hi'n gweithio fel ymchwilydd ym Manceinion fel arfer ond ar gyfnod furlough.
"Mae fy nheulu yn dod o Rhos, mae'n friendly yma, mae'n grêt," meddai.
"Mae popeth yn iawn yn Rhos. Mae pawb yn nabod ei gilydd, so mae'n grêt."
Dosbarthu meddyginiaeth
Fel arfer, mi fysa Stryt y Farchnad yn brysur efo siopwyr, ond ciwiau go wahanol sydd yma rŵan. Un rhes hir i'r fferyllfa.
Ymysg y rhai sy'n helpu i ddosbarthu meddyginiaeth rownd y pentre' mae aelodau'r clwb rygbi a'u teuluoedd.
"Tydyn nhw ddim yn gallu gadael eu tai, a 'dan ni'n mynd i Rhos i gasglu pethau," meddai Chris Williams o Glwb Rygbi Rhos.
"Dan ni yn ffonio nhw i fyny, mae pawb o'r grŵp yn helpu, so mae pawb yn hapus."
- CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
- AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
- IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
- DYSGU: Sut i gadw'r plant yn brysur gartref
Mae rhai o'r gwirfoddolwyr wedi teithio'n bell i helpu.
Mae Joseph Price yn athro ymarfer corff yn Madrid, ond wedi dod adref am gyfnod at ei deulu.
"Mae'n braf iawn, ond gwell na ddim byd ydi gweld pobol y gymuned yn gweithio efo'i gilydd i helpu pobol eraill," dywedodd.
Er mor unigryw ydi iaith a hanes y pentref, mae Rhosllannerchugog yn debyg iawn i'r miloedd o bentrefi eraill sy'n estyn llaw.
Yn y caffi sy'n dosbarthu bwyd, maen nhw wedi cael rhoddion hael o lemonau, a phan fo bywyd yn gallu bod yn sur weithiau, mae na le o hyd i weld y melys hefyd.
Straeon perthnasol
- 24 Ebrill 2020
- 23 Ebrill 2020