Adrian Chiles: Dysgu Cymraeg yn agor byd newydd

  • Cyhoeddwyd
Adrian Chiles a Steffan PowellFfynhonnell y llun, Betsan Haf Evans
Disgrifiad o’r llun,
Adrian Chiles a Steffan Powell

"Mae dysgu Cymraeg wedi agor byd newydd i fi...'dw i ddim yn gwneud llawer sy'n 'mindful' ond wnes i golli fy hun yn dysgu'r iaith."

Dyma eiriau'r cyflwynydd radio a theledu o Birmingham, Adrian Chiles, sy'n cymryd rhan yn y gyfres newydd Iaith ar Daith ar S4C. Mae Adrian yn un o bump seleb sy'n mynd ar daith gyda phump mentor adnabyddus er mwyn dysgu Cymraeg, profiad sydd wedi cyfoethogi bywyd y darlledwr:

"Roedd yn brofiad soothing iawn i ddysgu. Trosi'r geiriau o'n i wedi dysgu yn sgwrs oedd yn anodd, ond o'n i wir yn hoffi rhythm yr iaith."

Sylwebu ar Sgorio

Mae Adrian a'i fentor, y cyflwynydd radio BBC Radio 1 and 1Xtra Steffan Powell, wedi teithio i ardaloedd o Gymru sy'n bwysig i Adrian a bu rhaid i bob un o'r selebs wneud her - un Adrian oedd sylwebu'n Gymraeg ar raglen Sgorio.

Roedd siarad iaith newydd yn gyhoeddus yn her ond un peth doedd Adrian ddim yn poeni amdano oedd gwneud camgymeriadau: "Fe wnes i ddod dros hynny amser maith yn ôl trwy siarad Croatian gwael ar hyd fy oes. Mae fy mam o Croatia a chefais fy magu'n siarad yr iaith.

"Dwi erioed wedi poeni am edrych yn wirion. Mae pobl yn rhy aml yn cyrraedd canol oed a ddim yn fodlon newid na dysgu unrhyw beth newydd, sy'n drychinebus.

"Mae angen dal ati i ddysgu a pharhau i gwestiynu dy farn a dysgu sgiliau newydd.

"Newidiodd dysgu Cymraeg y ffordd o'n i'n meddwl mewn gwahanol ffyrdd. Fe roddodd ychydig mwy o feddwl lateral i fi ac roedd yn defnyddio rhan o'r ymennydd o'n i heb ei ddefnyddio am hir - 'oedd hynny'n help i'r ymennydd cyfan."

Ffynhonnell y llun, S4C

Cariad at Gymru

Mae Adrian wrth ei fodd yn dod i Gymru ers treulio pob gwyliau mewn carafán yn y Gŵyr fel plentyn: "Galla i ddim gor-ddweud faint dw i'n hoffi bod yng Nghymru - y Gŵyr yn enwedig. Dw i eisiau gwasgaru fy llwch ar un o'r traethau yna.

"Mae'n teimlo'n hollol chwith i mi i dreulio cymaint o amser yng Nghymru a heb unrhyw ddealltwriaeth o'r iaith.

"Dwi wastad wedi ffansio dysgu Cymraeg. A dydych chi ddim eisiau mynd ar y teledu ac edrych yn ffŵl llwyr felly mae'n ysgogiad i ddysgu.

"Dw i'n cofio mynd i siop tecawê Chinese mewn lle bach o'r enw Penrhyn yn Eryri tua 1989 ac roedd hyd yn oed y plentyn Tsieineaidd yn y tecawê yn siarad Cymraeg ac o'n i'n meddwl, mae hyn go iawn."

Her mwyaf

Ond doedd dysgu ddim yn hawdd: "Mae yna fyd o wahaniaeth rhwng dysgu Cymraeg a'i siarad. Chi'n agor eich ceg ac weithiau s'dim byd yn dod allan.

"Do'n i ddim wedi gwneud digon o ymarfer siarad yr iaith cyn y ffilmio.

"Hefyd mae angen i bawb siarad yn araf ac mae siaradwyr Cymraeg yn cael hi'n amhosib siarad yn araf. Byddwn bob amser yn dweud 'siarad yn araf', yna byddent yn dweud tua thri gair yn araf ac yna cyflymu i fyny.

"Pe bawn i'n gallu recordio pawb a'i chwarae yn ôl ar hanner speed, byddai llawer gwell.

"Hefyd cliciais ar y botwm i ddysgu Cymraeg gogleddol ar y rhaglen ar-lein Say Something in Welsh. Mae 'na rai geiriau od - yn y gogledd understand yw 'dallt' ond mae'n well gen i air y de sef 'deall' am fod e'n feddalach."

Ffynhonnell y llun, Betsan Haf Evans
Disgrifiad o’r llun,
"Cymerais dipyn o shein at Peggy'r hen wraig"

Ond yr her mwyaf yn ôl Adrian oedd canu Hen Fenyw Fach Cydweli tu fas i Gastell Cydweli: "Mwynheais yn fawr dysgu'r gân am hen wraig Cydweli a'i losin. Cymerais dipyn o shein at Peggy'r hen wraig ac fe wnes i drio'n galed am yr un honno."

Mentor a ffrind

Wrth ochr Adrian ar hyd y daith oedd Steffan, ei fentor sy'n dod o Lanaman yn Sir Gâr yn wreiddiol, ond yn byw yn Llundain erbyn hyn gyda'i wraig Emma. Roedd Steffan ac Adrian wedi gweithio gyda'i gilydd ar raglenni BBC Radio 5 live yn y gorffennol.

Dywedodd Adrian: "Roedd Steffan yn wych. O'n i wrth fy modd i gael fy mharu gydag ef.

"Ond mae'n un arall sy' methu siarad yn araf! Mae'r Cymry yn mynd o dawelwch llwyr i siarad 100 milltir yr awr, does dim cynhesu o gwbl.

"Fe ddysgodd fi mewn ffordd gentle iawn ac oedd yn help mawr. Mae pawb wir yn eich helpu chi - mae pobl yn siarad yn gyflym ond maen nhw'n falch bod chi'n ceisio dysgu."

Parch at athrawon

Arafu wrth siarad oedd un o'r gwersi pwysica' iddo ddysgu fel athro, yn ôl Steffan: "Mae gen i fwy o barch at fy chwaer i nawr sy'n athrawes!

"Y peth mwya' dw i wedi ei ddysgu yw i wrando'n iawn. Nath Adrian ddweud ar yr ail ddiwrnod bod pawb yn siarad rhy gyflym. 'Oedd angen jyst arafu brawddeg ac oedd e wedi cael effaith mawr ar allu Adrian i ddeall.

"Yr her mwya' i mi oedd rhoi hwb i'w hunan hyder e. Mae'n galed ar ei hun.

"Boi o Birmingham yw e sy' wedi penderfynu gwneud hwn achos bod e'n bwysig iddo fe.

"Dw i'n ystyried e mwy fel ffrind nawr yn hytrach na chydweithiwr."

Ac nid Adrian oedd yr unig un i elwa o'r profiad.

Dywedodd Steffan: "Dwi'n teimlo'n gryf iawn am estyn llaw i bobl sy'n dysgu.

"Pan ni'n dysgu Cymraeg i bobl newydd, mae angen i ni'r Cymry i fod mwy hyderus bod gyda ni rhywbeth mae pobl eraill mo'yn dysgu amdano.

"Ni fel Cymry'n gallu bod yn fewnblyg am yr iaith ond mae angen i ni fod lot mwy allblyg - mae ein hanes a'n iaith ni yn rili diddorol.

"Ni'n mynd yn obsessed gyda'r ffaith fod yr iaith yn cael cam gan rai pobl yn y wasg Brydeining ond mae 'na lot o bobl sy'n agored ac yn gefnogol iawn i'r iaith.

"Dyma ddyn o Birmingham sy' wedi teithio ar draws y byd a chyfweld gyda rhai o bobl mwya' enwog y byd, a dyma fe ishe treulio lot o'i amser yn dysgu ein iaith ni.

"A dyna beth dw i wedi cymryd mas o'r profiad mwy na dim byd."

Ac mae Adrian wedi elwa o'r cyfle hefyd: "Cefais wythnos wych a dod yn ôl yn fudr ac yn ddrewllyd ond yn falch iawn mod i wedi gwneud pob dim.

"Mae wedi dysgu i fi pa mor gynhenid yw iaith i ddiwylliant a sut mae'r ddau yn gysylltiedig. I wir adnabod lle mae'n rhaid i chi gael teimlad am yr iaith."

Mae Iaith ar Daith i'w weld ar ddydd Sul, Mai 10 am 8.00 ar S4C. Gwyliwch rhaglenni eraill y gyfres ar iPlayer

Hefyd o ddiddordeb