Dau yn y llys wedi ymosodiad 'bwa croes' mewn siop

  • Cyhoeddwyd
Bryncethin Stores, BryncethinFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Digwyddodd yr ymosodiad honedig yn Bryncethin Stores nos Lun

Mae dyn a menyw wedi ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â lladrad arfog mewn siop ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Cafodd menyw fân anafiadau yn ystod digwyddiad yn siop Bryncethin Stores, ar Ffordd Blackmill ym Mryncethin, ychydig ar ôl 19:00 nos Lun.

Honnir ei bod wedi cael ei saethu gyda bwa croes.

Cafodd Christopher Bessant, 34 oed ac o Frynmenyn, ac Esther Callow, hefyd yn 34 ac o Goety, eu cadw yn y ddalfa.

Mae disgwyl i'r ddau fynd o flaen Llys y Goron Caerdydd ar 10 Mehefin.