Elin Jones: 'Rhaid ystyried cefn gwlad cyn codi cyfyngiadau'

Cyhoeddwyd
AC Ceredigion Elin Jones

Mae angen polisi arbennig ar gyfer ardaloedd gwledig cyn ystyried llacio cyfyngiadau coronafeirws, yn ôl Aelod Cynulliad.

Yn dilyn datganiad Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, bod yr haint wedi pasio'i uchafbwynt, dywedodd Elin Jones, AC Ceredigion, nad oedd hynny'n wir yng nghefn gwlad.

Ychwanegodd y byddai angen amrywiaeth o bolisïau lleol yn hytrach nag un polisi cyffredinol ar draws y DU, cyn y gellid dechrau codi unrhyw gyfyngiadau.

"'Ni dal yn bryderus bod ni heb gyrraedd uchafbwynt yr haint yn yr ardal 'ma," meddai.

"Dydy meddwl y gallwn ni gael un polisi ar draws gwledydd Prydain ddim yn mynd i ddiogelu ardaloedd fel Ceredigion.

Profi cymunedol

"Nid ar sail capasiti ysbytai Llundain y dylid penderfynu a ddylid codi cyfyngiadau yng Ngheredigion, ond ar sail a ydy'r system mewn lle i brofi ar lefel gymunedol i 'dracio a tresio'.

"I fod yn hyderus fod y clefyd ddim yn mynd i gydio ynddon ni rhywbryd yn y dyfodol agos mae'n rhaid bod gynnon ni'r systemau mewn lle i brofi yn y gymuned ac i dracio'r haint a'i gadw fo i lawr fel bod o ddim yn lledu.

"Dwi isio gweld bod y rheiny mewn lle cyn bod unrhyw drafodaeth ynglŷn â sut ry'n ni'n symud i godi'r cyfyngiadau presennol."

Rhybuddiodd hefyd am y perygl o fwy o bobl yn dod i mewn i'r ardal unwaith y byddai'r cyfyngiadau wedi eu llacio mewn ardaloedd trefol.

"Mae'r capasiti [mewn ysbytai] yn fach yn y gorllewin o'i gymharu â'r ardaloedd trefol, a gallwn ni ddim fforddio cael nifer fawr o bobl yn dod i mewn i'n hardaloedd ni ar yr un pryd.

"Mae'n rhaid cael amrywiaeth o bolisïau sy'n gweddu anghenion gwahanol ardaloedd."

'Gweithio ar lefel leol'

Dywedodd Ms Jones, Llywydd y Cynulliad, bod gan y cynghorau sir rôl allweddol i'w chwarae yn hynny o beth.

Mae gan y cynghorau gysylltiadau da gyda chymunedau, a byddai'n bosib iddyn nhw adnabod unrhyw unigolion oedd yn dioddef o'r haint, meddai.

Yna byddai'r cynghorau'n gallu gweithio gyda'r unigolion i ganfod pwy maen nhw wedi bod mewn cysylltiad â hwy yn y dyddiau cynt.

"Wedyn gallwn sicrhau bod cyfyngiadau symud yn deillio o hynny. Mae'n bosib gwneud hynny ar lefel leol, ond mae'n anoddach ar lefel genedlaethol a Phrydeinig."

Mwy o brofi

Yn siarad ddydd Gwener, dywedodd ysgrifennydd iechyd Llywodraeth y DU y byddai gwaith pellach i ddilyn ôl-troed y feirws yn dechrau.

Dywedodd Matt Hancock y byddai gwybod pwy sydd wedi cael y feirws a gyda phwy maent wedi cysylltu yn arafu'r lledaeniad.

Dywedodd y byddai profi a dilyn llwybr y feirws yn helpu i dargedu cyfyngiadau "gyda llawer mwy o gywirdeb".