Apelio am wybodaeth wedi gwrthdrawiad angheuol Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Heddlu

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Abertawe ddydd Gwener.

Dywedodd Heddlu De Cymru bod dyn 46 oed wedi marw yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng Toyota C-HR glas a lori Iveco gwyn ar Heol Castell-nedd.

Roedd y dyn yn gyrru'r Toyota ar y pryd.

Mae swyddogion yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un welodd y digwyddiad am 10:25.