Cymro yn arwain gwaith arloesol i ddeall Covid-19

Aled Price
BBC Cymru Fyw

  • Cyhoeddwyd
Dr Steven JonesFfynhonnell y llun, Michael Smith Genome Cancer Centre
Disgrifiad o’r llun,
Dr Steven Jones yw pennaeth biowybodaeth y Ganolfan Gwyddorau Genom yn Vancouver, Canada

Mae Dr Steven Jones, sy'n hanu yn wreiddiol o fferm ger Llanbedr Pont Steffan, yn un o wyddonwyr mwyaf dylanwadol Canada.

O'i bencadlys yn Vancouver mae'n arwain canolfan ymchwil genetig blaenllaw.

Nawr mae'n wynebu her newydd ar frys. Yng nghanol y pandemig mae'n arwain ymdrech i geisio deall feirws Covid-19, ac mae galw mawr am ei arbenigedd.

Ei dîm gwyddonol wnaeth adnabod cod genynnol feirws peryglus arall - SARS - yn 2003.

'Salwch gwahanol iawn'

Mewn cyfweliad â Cymru Fyw dywedodd Dr Jones: "20 mlynedd bron ers SARS mae technoleg wedi newid ac roedd SARS yn salwch gwahanol iawn.

"Roedd SARS yn cael effaith ddifrifol ar bawb oedd yn dal y feirws, ond mae 'na bobl yn cerdded o gwmpas gyda Covid-19 heb unrhyw effaith, tra bo eraill yn sâl iawn.

"Felly ein cwestiwn yw - beth sydd yn gwneud rhai pob yn sensitif i'r feirws? Ydy e'n rhywbeth i'w wneud â'r genomau?"

Ffynhonnell y llun, Dr Steven Jones
Disgrifiad o’r llun,
Mae Dr Jones a'i dîm yn archwilio i effaith Covid-19 ar wahanol bobl

Mae llywodraeth Canada wedi ariannu gwaith ymchwil gwerth $20m gan Dr Jones a gwyddonwyr eraill er mwyn chwilio am atebion.

Bydd y labordai yn astudio DNA hyd at 10,000 o drigolion Canada sydd wedi cael prawf positif am Covid-19.

Mae'r ymchwilwyr yn disgwyl adnabod sut mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo, a pha bobl sydd yn debygol o ddioddef fwyaf o'r salwch - a'r cysylltiad rhwng hynny a geneteg gwahanol unigolion.

Eisoes mae'n amlwg bod y feirws yn cael mwy o effaith ar bobl hŷn, ond mae rhai pobl iau yn cael eu taro yn wael hefyd, a'r bwriad yw deall hynny yn well.

Mae'n debyg bydd patrymau genynnol yn help i ddeall ymddygiad y feirws.

'Brechlyn yw'r ffordd allan'

"Ni'n bwriadu rhannu ein data yn rhyngwladol, gan gynnwys prosiect genom Cymru," meddai Dr Jones.

"Y gobaith yw bod yn ein hymchwil yn helpu i gael triniaeth well i gleifion - ond yn y pen draw brechlyn yw'r ffordd allan o hyn."

Mae'n obeithiol bod hynny yn bosib.

"Does dim eglurhad rhesymegol pam na all y gymuned wyddonol ddatblygu brechlyn," meddai.

"Fy marn bersonol yw y gallai hyn fod yn bosib erbyn yn gynnar yn 2021."

Ysbrydoliaeth Llambed ac Aberystwyth

Pan oedd yn blentyn ysgol yng Ngheredigion y datblygodd ddiddordeb Dr Jones mewn gwyddoniaeth wrth iddo gael ei fagu ar fferm Dolaugwyrddion ym Mhentrebach, ger Llanbedr Pont Steffan.

Ond ymweliad â Bridfa Blanhigion Cymru, sy'n rhan o Brifysgol Aberystwyth, roddodd yr ysbrydoliaeth fwyaf iddo.

Ffynhonnell y llun, Dr Steven Jones
Disgrifiad o’r llun,
Dr Steven Jones yn ystod achlysur mwy hapus, yn dathlu astudiaeth o batrymau geneteg dyfrgi y môr a morlfil Beluga

"Yr unig reswm rwy'n astudio coronafeirwsheddiw yw'r ymweliad yna," meddai Dr Jones.

"Rwy'n cofio mynd yno ar ymweliad ysgol a chael fy syfrdanu. Fe wnes i feddwl - 'Beth? Fedrwch chi wneud hyn fel job?!' Sef astudio DNA planhigion a deall sut mae planhigion gwahanol yn gweithio.

"Fy hoff bwnc yn Ysgol Gyfun Llambed oedd Bioleg ac roedd gen i athrawon wnaeth ysgogi fy niddordeb ymhellach.

"Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn dulliau ffermio hefyd. Fyddech chi'n medru gweld dau gae drws nesa i'w gilydd, ond roedden nhw'n wahanol iawn oherwydd geneteg yr hadau gwair gwahanol yno.

"Fe wnaeth hynny fy ysbrydoli i astudio biocemeg ymhellach ym Mryste, ac yna Vancouver."