Arestio dyn ar amheuaeth o geisio llofruddio

  • Cyhoeddwyd
Sgwâr LlanarthFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Sgwâr Llanarth ym Mhontymister ddydd Gwener

Mae dyn 47 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi i ddyn arall gael ei drywanu yn Rhisga, Sir Caerffili ddydd Gwener.

Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi'u galw i'r digwyddiad am ar Sgwâr Llanarth ym mhentref Pontymister am 17:30.

Roedd dyn lleol 39 oed wedi dioddef anafiadau trywanu i'w cefn, ei frest a'i goes.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ble mae mewn cyflwr sefydlog.

Dywedodd yr heddlu bod dyn 47 oed o Risga wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Ychwanegodd y llu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad, ond eu bod yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.