Dim rhwystr gwleidyddol i gemau Abertawe a Chaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Cardiff v AbertaweFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi dweud nad yw'n bwriadu rhwystro clybiau pêl-droed Abertawe a Caerdydd rhag ail ddechrau'r tymor ym Mhencampwriaeth Lloegr.

Amlinellodd Mr Drakeford gynlluniau Llywodraeth Cymru i lacio'r cyfyngiadau mewn gwahanol feysydd.

Ond nid yw'r system goleuadau traffig coch, oren a gwyrdd - sydd yn cael ei defnyddio i lacio'r cyfyngiadau - yn nodi dyddiad pryd y caiff athletwyr elitaidd a chlybiau ailddechrau ymarfer.

Pan ofynnwyd iddo pe bydda'n rhwystro clybiau Cymreig rhag chwarae cystadlaethau dros y ffin yn Lloegr oherwydd rheolau gwahanol fe ddywedodd "dim dyna ein nod."

Ychwanegodd: "Os yw'n bosib i glybiau chwaraeon Cymreig gymryd rhan mewn cystadlaethau sydd yn ail ddechrau yna ein dyhead yw sicrhau gallwn chwarae rhan i wneud hynny ddigwydd."

Dywedodd os oedd diogelwch a mesurau iechyd cyhoeddus mewn lle yna doedd o "ddim eisiau i reolau Cymru bod yn reswm pan na allen nhw wneud hynny."

Ail ddechrau ymarfer

Mae'r cyfrifoldeb dros chwaraeon wedi ei ddatganoli yng Nghymru ond yn wahanol i Loegr, nid yw gweinidogion Cymreig wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer chwaraeon elitaidd yn ail ddechrau ymarfer.

Mae Llywodraeth y DU wedi llacio cyfyngiadau yn Lloegr gan nodi dyddiad o ddim cynharach na 1 Mehefin i gemau a digwyddiadau ail ddechrau tu ôl i ddrysau caeedig.

Mae protocol wedi cael ei ddarparu i glybiau Lloegr - a 25 Mai yw'r dyddiad sydd wedi ei glustnodi ar gyfer ailddechrau sesiynau hyfforddi, gyda 13 Mehefin yn cael ei grybwyll fel dyddiad ail ddechrau gemau.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Rheolwr Casnewydd Michael Flynn - mae tymor y clwb yn Adran 2 Cynghrair Lloegr ar ben

O ganlyniad mae Abertawe a Chaerdydd wedi gofyn am eglurder gan aelodau'r Senedd ynglŷn â pha weithgareddau a ganiateir yn eu canolfannau ymarfer o dan reoliadau Cymreig.

Mae'r Gynghrair Bêl Droed wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r clybiau Cymreig a'u gallu i ailddechrau ymarfer ac mae'r trafodaethau hynny wedi cael ei disgrifio fel rhai adeiladol.

Yn y cyfamser mae Cynghrair Bêl-droed Lloegr wedi cyhoeddi y bydd y gynghrair yn dod i ben ar unwaith wedi trafodaethau gyda'r 24 clwb - gan gynnwys Casnewydd.

Mae Casnewydd wedi dweud eu bod yn cefnogi'r penderfyniad.

Mae disgwyl y bydd cyhoeddiad am brif gynghreiriau Cymru, gan gynnwys Uwchgynghrair Cymru, yn cael ei wneud wedi cyfarfod o fwrdd Cymdeithas Bêl Droed Cymru yr wythnos nesaf.

Bu'r Gymdeithas yn cynnal trafodaethau arlein gyda'r clybiau ddydd Gwener ac mae gan y clybiau tan ddydd Sul i ystyried eu opsiynau cyn adrodd yn ôl.