Addysgu hanes BAME am 'helpu i drechu hiliaeth'

  • Cyhoeddwyd
Breaking chainsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Mae deiseb sy'n galw am ddysgu mwy o hanes pobl BAME wedi denu dros 27,000 o lofnodion

Byddai addysgu disgyblion yng Nghymru am hanes pobl ddu yn "helpu i drechu hiliaeth", yn ôl cadeirydd Cyngor Hil Cymru.

Mae deiseb sy'n galw am ddysgu mwy o hanes gwladychol Prydain fel rhan o'r cwricwlwm yng Nghymru wedi denu dros 27,000 o lofnodion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai disgyblion ddysgu am rôl Cymru mewn masnach caethweision a gwladychiaeth.

Dywedodd y barnwr Ray Singh ei fod yn gobeithio hefyd y bydd effaith anghymesur Covid-19 ar gymunedau du, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn "ychwanegu momentwm" i'r ymdrech i amlygu'r anghydraddoldebau hiliol o fewn cymdeithas.

Gyda phrotestiadau wedi'u cynnal ar draws Cymru ddydd Sadwrn, dywedodd y Barnwr Singh bod "pobl yn benderfynol o ddangos bod bywydau du yn cyfrif" yng Nghymru yn sgil marwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau.

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd y Barnwr Ray Singh y byddai mwy o addysg am hanes BAME yn "helpu cenedlaethau'r dyfodol"

Yn siarad ar raglen Politics Wales, ychwanegodd: "Mae anfanteision strwythurol ar gyfer pobl ddu yn bodoli yn ein cymunedau ni hefyd - ar ei waethaf mae'n hiliaeth pur ond mae eraill sydd dan anfantais gan gymunedau sy'n llai amlwg na hynny.

"Dyw e ddim yn hiliaeth fwriadol, ond mae wedi'i blannu yn y ffordd mae sefydliadau'n gweithredu ac mae penderfyniadau'n cael eu gwneud.

"Rwy'n gobeithio y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gofyn y cwestiwn 'beth oedd ymateb pobl Cymru wrth wynebu Covid-19?' ac rwy'n gobeithio bod hyn am ychwanegu momentwm i amlygu ac adnabod yr anghydraddoldeb sydd yn ein cymdeithas.

"Dydyn ni ddim yn cael ein geni'n hiliol - rydyn ni'n cael ein gwneud yn hiliol trwy ein gweithredoedd a'n ffordd o fyw."

'Cyfle i weithredu'

Bydd y ddeiseb sy'n galw am ddysgu hanes pobl ddu fel rhan o'r cwricwlwm yn cael ei drafod yn y Senedd am ei fod wedi pasio'r trothwy o 5,000 o lofnodion.

Cafodd ei sefydlu gan fyfyriwr ôl-radd hanes, Angharad Owen.

"Mae'r cyfnod pwysig yma o newid a chwyldro yn gyfle i'r Senedd a Llywodraeth Cymru weithredu ar yr angen i gynnwys hanes a diwylliant BAME yn addysg ein pobl ifanc ar draws y wlad," meddai.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Daeth cannoedd o bobl i brotestio ym Mharc Biwt, Caerdydd ddydd Sadwrn

Dywedodd y Barnwr Singh: "Rwy'n credu y bydd yn helpu plant, cenedlaethau'r dyfodol, i ddeall pam na ddylid gwahaniaethu.

"Mae gennym bobl sy'n byw yma nawr sydd wedi cyfrannu cymaint at les Cymru a brwydro dros y wlad.

"Dydy hynny ddim yn cael ei ddysgu mewn ysgolion a dyw plant ddim yn gwybod hynny. Bydd yn helpu i drechu hiliaeth."

'Hanes ddim yn fater am un pwnc'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r gweinidog [addysg] wedi siarad am sut y bydd cysylltu'r lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn golygu canolbwyntio ar rôl Cymru yn y fasnach caethweision a'n cyfraniad i adeiladu'r ymerodraeth.

"Mae'n golygu ein bod yn asesu safbwyntiau gwahanol ar y profiad Cymreig trwy waith Eric Ngalle Charles, neu hanes cymdeithasol chwaraeon fel y nifer o chwaraewyr du aeth i'r gogledd i chwarae rygbi'r gynghrair.

"Dyw hanes ddim yn fater am un wers ac un pwnc."

Politics Wales, BBC One Wales am 10:15 ddydd Sul, 7 Mehefin, ac yna ar iPlayer.