'Cyfrifoldeb' a rôl Cymru yn hanes hiliaeth

  • Cyhoeddwyd
Cerflun HM Stanley yn NinbychFfynhonnell y llun, Alexandra Derwen

Mae ymgyrch Black Lives Matter a'r protestiadau ynglŷn â marwolaeth George Floyd a hiliaeth yn yr Unol Daleithiau wedi sbarduno nifer i ddysgu o'r newydd am rôl Cymry yn hanes hiliol Prydain.

Mae llawer ar gyfryngau cymdeithasol yn dweud eu bod eisiau i Gymry addysgu eu hunain am gysylltiadau Cymru gyda chaethwasiaeth a chydnabod ei rhan yn yr hanes, ac yn etifeddiaeth yr hanes hwnnw.

Mae'r artist Efa Lois wedi tynnu sylw at unigolion a sefydliadau oedd â chysylltiadau â chaethwasiaeth ac sy'n rhan annatod o hanes Cymru.

"Fel pobl sydd â braint pobl gwyn, mae cyfrifoldeb arnom ni i drafod hanes hiliaeth yng Nghymru, a rôl pobl o Gymru mewn sefydliadau hiliol," meddai ar Twitter.

"Mae angen i ni ddarllen, trafod, ac addysgu eraill am bobl, pethau a digwyddiadau..." meddai, cyn mynd ati i restru 18 o ddigwyddiadau a phobl sy'n dangos cysylltiadau Cymru â hanes hiliol mewn edefyn ar Twitter.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolGweld mwy ar Twitter

Yn eu mysg mae Richard Pennant, perchennog stad y Penrhyn a sefydlodd Chwarel y Penrhyn a dod â gwelliannau mawr i ran o ogledd Cymru yn sgil ei gyfoeth o ran ffyrdd, tai a gwaith. Roedd y cyfoeth a alluogodd hyn wedi dod yn uniongyrchol o'i blanhigfa siwgr yn Jamaica a chwys a llafur ei gaethweision yno.

Roedd ganddo bron i fil o gaethweision wedi eu rhestru fel eiddo iddo yn Jamaica a phlanhigfa siwgr o'r enw Denbigh. Mae cymuned o'r enw Pennants yn dal yno hyd heddiw.

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,
Castell wedi ei adeiladu o siwgr: Yn 2018 cynhaliodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol arddangosfa o waith gan Manon Steffan Ros yn archwilio hanes caethwasiaeth a theulu Castell Penrhyn

Mewn edefyn arall ar Twitter, dywedodd y gomedïwraig o ogledd Cymru Kiri Pritchard-McLean iddi ddysgu am hanes gormesu ar Gymru ac am ymgyrch hawliau sifil America yn yr ysgol ond nid am hiliaeth a gormes pobl ddu mewn cysylltiadau â Chymru.

Chafodd hi mo'i dysgu am Richard Pennant, na'r cyfoeth lleol ddaeth yn uniongyrchol o gaethwasiaeth. Ond roedd hi bellach yn dysgu am yr hanes yma, meddai.

Harri Morgan a 'hunan-dwyll'

Cymro arall oedd yn berchen ar blanhigfeydd siwgr a chaethweision yn Jamaica oedd Capten Harri Morgan, un o'r môr-ladron sy'n cael ei ystyried, fel Barti Du, yn ffigwr rhamantus yng Nghymru.

Mae llu o enghraifftiau eraill: y bardd Goronwy Owen oedd yn berchen ar blanhigfa yn Virginia; Elihu Yale, Americanwr o dras Cymreig roddodd ei enw i brifysgol Yale a'r hen Goleg Iâl yn Wrecsam a oedd yn fasnachwr caethweision ac un o berchnogion yr East India Company; ffyniant y diwydiannau copr a dur yn ne Cymru; gwehyddwyr Cymru oedd yn darparu gwlân ar gyfer dillad caethweision.

Dywedodd Dylan Foster Evans fod yna "hunan-dwyll" yng Nghymru gan dynnu sylw at ddolen i hanes y masnachwr caethweision Capten Thomas Phillips a'r plac godwyd iddo yn Aberhonddu yn 2010.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanolGweld mwy ar Twitter

Cadw neu ddymchwel cerfluniau?

Ond wrth addysgu ein hunain am yr unigolion a'r hanes, beth i'w wneud â'r cofebau a'r cerfluniau sy'n mawrygu rhai o'r bobl yma dros Gymru?

Disgrifiad o’r llun,
Mae dwy gofeb i Syr Thomas Picton yng Nghymru

Wedi i'r cerflun o'r masnachwr caethweision Edward Colston gael ei daflu i'r dŵr ym Mryste ac eraill wedi eu tynnu i lawr, mae deisebau yng Nghymru yn galw am gael gwared â chofebau i bobl fel Syr Thomas Picton, arweinydd milwrol a chyn lywodraethwr Trinidad wnaeth reoli yn greulon dros gaethweision a sefyll ei brawf am gamdriniaeth.

Mae cerflun o Thomas Picton ymysg y casgliad o gerfluniau o arwyr Cymru, gyda Buddug, Llywelyn a Dewi Sant, yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ac mae cofeb arall iddo yng Nghaerfyddin.

'Ymwybyddiaeth glir'

Mae galw hefyd am gael gwared â'r cerflun o HM Stanley yn Ninbych a godwyd mor ddiweddar â 2011.

Ffynhonnell y llun, Pete Eddy
Disgrifiad o’r llun,
Roedd gwrthwynebiad i gerflun HM Stanley pan gafodd ei godi yn wreiddiol a chafodd ei ddifrodi mewn protest yn 2012

Roedd Mair Jones yn un o'r rhai wnaeth wrthwynebu'r cerflun o HM Stanley yn wreiddiol ac mae wedi bod yn rhan o brotestiadau yn ei erbyn.

"Yn 2010, roedd 'na ymwybyddiaeth glir o gysylltiadau HM Stanley efo'r gyflafan ddigwyddodd yn Congo," meddai mewn trafodaeth ar Post Cyntaf, ar Radio Cymru.

"Roedd yn asiant i frenin Leopold. Wnaeth o berswadio trigolion lleol, yn dywyllodrus, i drosglwyddo eu tiroedd i'r brenin Leopold a mae'r hanes o'r dioddefaint erchyll yn y Congo ar y pryd, ac yn dal yn ddiweddar, yn ffeithiol, felly dwi'n hollol grediniol bod angen rŵan [cael ei wared] - mae'r cyd-destun wedi newid."

Mae cerflun o'r brenin Leopold II yn Antwerp yng Ngwlad Belg wedi ei ddifrodi a'i symud.

Meddai'r hanesydd Hefin Matthias wrth drafod yr obelisg i Thomas Picton yng Nghaerfyrddin: "Mae'n dangos yn glir fod hanes Cymru a'r ymerodraeth Brydeinig wedi bod yn agos iawn gyda'i gilydd. Mae hefyd yn dangos bod Cymry wedi elwa o'r diwydiant yn y gorffennol."

O blaid cadw cerfluniau

Ffynhonnell y llun, Google Maps
Disgrifiad o’r llun,
Mae trafodaeth yn digwydd am y gofeb i Picton yng Nghaerfyrddin. Dywedodd y cynghorydd sir Alun Lenny ei fod yn anghytuno â'i dynnu i lawr: "dyw cuddio eu cyfrinachau brwnt o'r gorffennol ddim yn ateb," meddai.

Ond er hynny mae'n dadlau fod y cerfluniau yma yn arteffactau hanesyddol sy'n dyst i hanes eu cyfnod.

"Yn bersonol, fyswn i'n gadel yr arteffactau mewn bodolaeth... unwaith rydych chi'n cael gwared ohonyn nhw, chi'n dileu y cof amdanyn nhw ac felly rydych chi'n colli cyfle i esbonio i blant ac oedolion yng Nghymru am hanes Cymru yn y gorffennol. Ac mae'n hollbwysig bod pob arteffact hanesyddol yn cael eu cadw...

"Er enghraifft a fyddech chi'n tynnu cestyll Cymru i lawr? Mae cestyll Cymru yn arwydd mwyaf amlwg o ormes Lloegr ar Gymru... ond mae'n rhan bwysig o'r cof cenedlaethol ac yn esbonio hanes Cymru o'r gorffennol ar gyfer y presennol a'r dyfodol."

Awgrymodd yr hanesydd Bob Morris y dylid rhoi plac yn egluro beth mae'r person wedi ei wneud.

Ond i'r fyfyrwraig hanes Angharad Owen dylid cael gwared â'r cofebau yma a'u rhoi mewn amgueddfeydd.

Mae hi wedi cychwyn deiseb i'w "gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru".

Dydy eu cadw nhw fyny fel maen nhw neu hyd yn oed i roi plac arnyn nhw ddim yn ddigon, meddai.

Dyw chwaith ddim yn dal dŵr, meddai, i ddweud mai cynnyrch gwerthoedd eu hoes oedd y bobl yma a bod da a drwg ynddyn nhw.

"Mae dweud eu bod nhw'n bobl da ar yr amser yn ignorio'r ffaith fod yna anti-slavery, abolistionist movement ar yr un amser yn dweud nad ydi hwn yn iawn."

Hefyd o ddiddordeb: