Gwrthod rhyddhau gohebiaeth â chwmni fferyllol Roche

  • Cyhoeddwyd
profion coronafeirwsFfynhonnell y llun, Reuters

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cyhoeddi eu gohebiaeth gyda chwmni fferyllol Roche ynghylch profion coronafeirws.

Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru, dywedodd y llywodraeth y byddai rhyddhau'r wybodaeth "yn debygol o niweidio'r berthynas gyda Llywodraeth y DU".

Ym mis Mawrth dywedodd Llywodraeth Cymru fod cytundeb gyda Roche i ddarparu 5,000 o brofion ychwanegol y dydd wedi methu, er i'r cwmni o'r Swistir wadu bod cytundeb o'r fath wedi bod.

Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ryddhau'r wybodaeth.

Targedau profi

Ar 21 Mawrth fe gyhoeddodd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething y byddai gan Lywodraeth Cymru fynediad i 6,000 o brofion y dydd erbyn 1 Ebrill, ac 8,000 o brofion y dydd o fewn wythnos i hynny.

Ond cafodd y targedau hynny eu hadolygu yn sgil cyhoeddiad Roche, cyn i'r targed o 9,000 o brofion y dydd erbyn diwedd Ebrill gael ei ddiddymu'n llwyr.

Yn ddiweddarach fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru gadarnhau bod Cymru'n derbyn 19% o brofion Roche ar gyfer y DU, oedd gyfystyr â 900 prawf y dydd.

Dim ond yn ystod wythnos olaf mis Mai y gwnaeth Cymru gyrraedd y gallu i gynnal dros 9,000 o brofion labordy.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Ar un adeg roedd gan y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething darged o 9,000 o brofion dyddiol

Yn dilyn cyhoeddi manylion y stori am Roche, dywedodd Mr Gething nad oedd modd osgoi'r ffaith y byddai profion coronafeirws ychwanegol "wedi gwneud gwahaniaeth yn gynharach".

Ar y pryd dywedodd: "Dwi'n cydnabod y galw gan y cyhoedd, yn enwedig ein gweithwyr rheng flaen, i gynyddu ein capasiti i brofi mor fuan â phosib."

Ychwanegodd: "Pan fydd hyn oll drosto, dwi'n siŵr y bydd llawer o gwestiynau i ni i gyd am y dewisiadau 'dyn ni wedi'u gwneud ar wahanol adegau, gan gynnwys yr agwedd hon."

Galw am dryloywder

Ar 31 Mawrth fe wnaeth BBC Cymru anfon cais i Lywodraeth Cymru dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am "bob cyswllt rhwng Llywodraeth Cymru a Roche ynghylch darparu profion coronafeirws".

Ar 20 Mai cyhoeddodd Llywodraeth Cymru estyniad i'r broses adolygu "oherwydd yr angen i ystyried, ym mhob un o amgylchiadau'r achos, ble mae'r cydbwysedd o ran budd at y cyhoedd mewn perthynas â'r wybodaeth yr ydych wedi gwneud cais amdano".

Mewn ymateb ar 5 Mehefin, dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddyn nhw "rai cyfathrebiadau sy'n disgyn o fewn maes eich cais" ond eu bod wedi'u heithrio rhag cyhoeddi'r wybodaeth gan ei fod "yn cael ei gadw ar gyfer pwrpas ffurfio a datblygu polisi llywodraethol, a byddai datgelu'r wybodaeth dan sylw yn, neu'n debygol o, niweidio'r berthynas gyda Llywodraeth y DU".

Mae Plaid Cymru wedi galw eisoes am ryddhau'r ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Roche.

Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Adam Price fod angen i'r llywodraeth ddangos "tryloywder" wrth ryddhau'r wybodaeth

"Y peth pwysicaf all llywodraeth wneud mewn adeg o argyfwng fel hyn yw bod yn dryloyw gyda'i dinasyddion," meddai arweinydd y blaid, Adam Price AS.

"Mae'n siomedig tu hwnt felly bod Llywodraeth Cymru wedi dewis peidio cyhoeddi'r ohebiaeth rhyngddyn nhw a Roche - gohebiaeth fyddai'n datgelu'n union pam wnaethon nhw fethu gyda'r cytundeb fyddai wedi sicrhau 5,000 o brofion Covid-19 dyddiol i Gymru.

"Pam felly bod Llywodraeth Cymru mor barod i amddiffyn San Steffan drwy ddewis peidio cyhoeddi'r ohebiaeth yma, pan oedd methiant y cytundeb yn golygu bod prinder sylweddol yng Nghymru o ran capasiti profi Covid-19?"

Ychwanegodd: "Er lles tryloywder a'r budd cyhoeddus dylai'r wybodaeth yma gael ei chyhoeddi."

'Camarwain'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies fod Llywodraeth Cymru wedi awgrymu yn y gorffennol "nad oedd ganddyn nhw" y wybodaeth oedd wedi'i ofyn amdano.

"Dylai Llywodraeth Cymru nawr ddweud wrthym ni un ai nad oes ganddyn nhw y wybodaeth, neu eu bod nhw methu ei ryddhau. All y ddau beth ddim bod yn wir," meddai.

"O ystyried yr ymatebion amrywiol, rwy'n gobeithio nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn camarwain pobl Cymru er mwyn cuddio'u hanalluogrwydd."