Llofrudd 15 o bobl yn 2000 yn gwneud cais am barôl
- Cyhoeddwyd

Mae dyn wnaeth lofruddio 15 o bobl, gan gynnwys dwy Gymraes, yn Awstralia yn 2002 wedi gwneud cais am barôl.
Bu farw Sarah Williams o Aberfan a Natalie Morris o Gefn Coed mewn tân mewn hostel yn Childers ger Brisbane yn 2000.
Fe gafodd Robert Long ei garcharu am oes am lofruddiaeth a chynnau tân yn fwriadol.
Ond mae teuluoedd rhai o'r bobl fu farw yn gwrthwynebu rhyddhau Long, ac mae deiseb wedi cael ei arwyddo gan dros 15,500 o bobl eisoes ar-lein.
Yn ystod yr achos yn ei erbyn yn 2002, clywodd llys fod Long wedi rhoi'r hostel ar dân am fod gas ganddo deithwyr ifanc o dramor yn dod i Awstralia.
Yn Awst 2000 clywodd cwest fod anadlu mwg wedi lladd y ddwy Gymraes.
Fe gafodd y tân ei gynnau yn ystod oriau mân y bore.
Pan gafodd Long ei garcharu am oes yn y Goruchaf Lys yn Brisbane yn Mawrth 2002, dywedodd y barnwr y dylai dreulio o leiaf 20 mlynedd yn y carchar.
Fe wnaeth apelio yn erbyn y ddedfryd, ond cafodd y cais ei wrthod.
Fe fydd Bwrdd Parôl Queensland yn ystyried yr holl dystiolaeth berthnasol cyn dod i benderfyniad am y cais maes o law.