Timau Cymru yn darganfod eu gwrthwynebwyr yn Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Andy MorrisonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd rheolwr Cei Connah, Andy Morrison ei fod yn edrych ymlaen at yr her

Bydd Cei Connah yn herio FK Sarajevo o Bosnia yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr eleni.

Fe wnaeth y clwb o'r gogledd-ddwyrain gyrraedd y gystadleuaeth am y tro cyntaf yn eu hanes ar ôl cael eu coroni'n bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru eleni.

Mae'r Seintiau Newydd wedi cael gwybod y byddan nhw yn croesawu MŠK Žilina o Slofacia yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa ar 27 Awst.

Bydd Y Bala yn teithio i Malta i herio Valletta ar yr un dyddiad.

Yn y cyfamser, mae'r Barri wedi darganfod y byddan nhw'n teithio i herio NSÍ Runavík o Ynysoedd y Ffaro yn rownd gynragbrofol Cynghrair Europa.

A phe bai'r Barri yn llwyddo i drechu NSÍ Runavík fe fyddan nhw yn teithio i'r Alban i herio Aberdeen yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Europa.

Gemau un cymal

Oherwydd newidiadau i'r cystadlaethau eleni yn dilyn y pandemig Covid-19, dim ond un cymal fydd yn cael ei chwarae ym mhob rownd ragbrofol.

Bydd Cei Connah felly yn wynebu pencampwyr Bosnia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 18 Awst, a'r Barri yn herio NSI Runavik - ddaeth yn drydydd yn uwch gynghrair Ynysoedd y Ffaro llynedd - ar 20 Awst.

Pe bai Cei Connah yn fuddugol yn y gêm honno byddai tîm Andy Morrison yn wynebu Dynamo Brest ym Melarws neu Astana oddi-cartref yn Kazakhstan yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.