Dyn wedi'i anafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad yn Aberdâr

  • Cyhoeddwyd
A4059Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A4059 yn hwyr nos Sadwrn

Mae dyn wedi ei gludo i'r ysbyty ag anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad yn Aberdâr yn hwyr nos Sadwrn.

Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi eu galw i'r gwrthdrawiad un cerbyd ar yr A4059, rhwng Stryd Meirion a bwyty McDonalds, am tua 23:50.

Roedd gyrrwr y Peugeot 107 du wedi ei anafu ar ôl i'w gar daro yn erbyn arwydd, ac fe gafodd ei gludo i'r ysbyty ble mae'n parhau i fod mewn cyflwr difrifol.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn awyddus i siarad ag unrhyw dystion i'r digwyddiad, neu unrhyw un â fideo dashcam allai fod wedi gweld y car, i gysylltu gyda nhw.