Criced: Morgannwg yn taro'n ôl yn erbyn Caerwrangon

  • Cyhoeddwyd
Worcestershire opener Jake Libby's 184 was a career-best scoreFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,
Morgannwg yn taro nôl yn erbyn Jake Libby o Gaerwrangon a sgoriodd 184

Mae Morgannwg yn 181 am 2 yn eu batiad cyntaf yn erbyn Caerwrangon yn New Road ar ddiwedd yr ail ddiwrnod o chwarae.

Mae'r sgôr yn 181 diolch i 137 o rediadau a sgoriodd Kiran Carlson a Billy Root mewn partneriaeth ddiguro hyd yn hyn.

Roedd Caerwrangon wedi cau eu batiad yn 455 am 8 ar ôl 120 pelawd - ni chaniateir mwy na hynny yn y batiad cyntaf yng nghystadleuaeth Cwpan Bob Willis.

Mae deuddydd arall o chwarae yn y gêm.