5 o lefydd 'cudd' i'w darganfod yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod Cymru'n llawn traethau, cestyll a phlastai hardd a hanesyddol i ymweld â nhw ond mae 'na beth wmbreth o lefydd llai adnabyddus i'w darganfod hefyd os ydych chi'n caru hanes.

Mae Owen Williams wedi bod yn rhestru rhai o'r llefydd yma mewn edefyn ar Twitter o'r enw Secrets of Wales.

"Dwi wedi bod yn darllen am y syniad yma o deep time, y syniad bod Cymru gymaint yn hŷn na rydyn ni erioed wedi meddwl. Gyda'r cyfnod clo bron ar ben ro'n i am greu rhestr o lefydd, rhyw fath o bucket list i bobl.

"Mae'r ymateb wedi bod yn rhyfeddol a mae 'na gwmni cyhoeddi a rhaglen deledu wedi dangos diddordeb."

Dyma ganllaw Owen felly i bump o lecynnau hudolus neu hanesyddol ar ei restr o tua 30 sydd efallai wedi bod oddi ar eich radar hyd yma:

1. Eglwys Sant Cwyfan

Ffynhonnell y llun, korhil65

"Ar ynys fechan ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, wedi ei amgylchynu gan Fôr Iwerddon gydag amlinelliad Mynyddoedd Wicklow yn y pellter, mae lle arbennig. Eglwys fechan yn y môr. Eglwys syml, hudol Sant Cwyfan.

"Yn eistedd ar ynys greigiog siâp calon, yn ddiogel rhag tonnau gwyllt y môr y tu ôl i wal amddiffynnol, mae'r eglwys ganol oesol hudolus hon yn dyddio o'r 12fed ganrif yn wreiddiol.

"Mae wedi ei chysegru i Sant Kevin, Gwyddel a sefydlodd fynachlog Glenadlough dros y dŵr yn Sir Wicklow.

"Er bod lleoliad Eglwys Bach y Môr ar ynysig Cribiniau ger Aberffraw yn ymddangos yn un peryglus, doedd hi ddim wastad fel hyn. Cafodd ei chodi yn wreiddiol ar y trwyn sydd rhwng dau fae, Porth China a Phorth Cwyfan. Ond cafodd y penrhyn ei erydu'n araf gan y môr nes creu'r ynys lanw hyfryd hon."

Gallwch gerdded at yr ynys ar lanw isel. Mae'r eglwys wedi ei rhestru ac yn rhan o Esgobaeth Bangor.

2. Pont Minllyn

"Wrth ichi ddod i mewn i Ddinas Mawddwy ar yr A470 sy'n nadreddu o Gonwy i Gaerdydd, mae'r ffordd yn pasio heibio i heneb hynafol sydd wedi ei chuddio o'r ffordd. Croesfan fechan, gudd, dros yr afon dan drwch o fwsog gwyrdd sy'n edrych fel pe bai'n perthyn i fyd y tylwyth teg.

"Mae Pont Minllyn, sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Pont y Ffinnant, yn dyddio o'r 1600au cynnar. Mae'n hen groesfan dros afon Dyfi, a gafodd ei adeiladu fel pont ar gyfer ceffylau oedd yn cario nwyddau yn yr amser cyn ffyrdd a chamlesi.

"Cafodd ei ariannu a'i godi gan Dr. John Davies, rheithor Mallwyd a helpodd William Morgan i gyfeithu'r Beibl i'r Gymraeg."

Mae Pont Minllyn yn strwythur o bwysigrwydd cenedlaethol ac yn heneb sy'n cael ei gwarchod gan Cadw.

3. Traeth Caerdydd

Ffynhonnell y llun, Inksplott

"Mae gan Gaerdydd draeth cyfrinachol. A'r rheswm mae'n gyfrinach yw am ei fod i bob pwrpas wedi cael ei ddefnyddio fel tomen sbwriel am ran helaeth o'r ganrif ddiwethaf.

"Mae'n lle heddychlon, erchyll, gyda photensial enfawr. Mae hyn yn bwysig oherwydd gall pethau fod yn wahanol iawn os oes ewyllys i newid pethau.

"Cyn Gemau Olympaidd 1992, roedd Barcelona yn ddinas heb draeth. Ond cafwyd prosiect isadeiledd enfawr gan ddod â channoedd o dunelli o dywod o'r Aifft i adfywio glan y môr Barcelona.

"Os oes gennych chi ddiddordeb mewn darganfod y traeth eich hunain, fe gewch chi drafferth dod o hyd i arwydd yn unman ond mae mynediad di-nod i'r traeth i'w ganfod oddi ar ffordd Rover Way yn y brifddinas."

Cofiwch, er bod Llwybr yr Arfordir yn pasio heibio, peidiwch â disgwyl lle addas i fola-heulo na nofio ar y traeth yma sydd rhwng yr hen ddociau a stad ddiwydiannol Tremorfa. Traeth wedi ei orchuddio gan hen deiars, llanast, cerrig a brics o hen waith dur enfawr a thai gweithwyr yr hen Sblot sydd yma, wedi ei amgylchynu gan adeiladau diwydiannol cyfoes. Mae gwaith carthffosiaeth gerllaw hefyd.

4. Lleiniau Llan-non

Ffynhonnell y llun, Hawlfraint y Goron: CBHC

"Rhwng pentref bach yng Ngheredigion a'r môr mae ardal o dir gwastad rhwng afonydd Peris a Chledan. Ar fapiau, mae'n cael ei alw yn Morfa Esgob. Mae wedi ei rannu'n stribedi rhyfedd, hir, o dir. Mae'r tir yma'n hynafol, dyma Lleiniau.

"Arferai'r tir yma fod ym meddiant Esgobaeth Tyddewi, sy'n egluro'r enw Morfa Esgob.

"Mae'r tir yn ffrwythlon o'i gymharu â'r bryniau o'i gwmpas ac yn cael ei bori yn bennaf erbyn hyn. Ond mae'r mapiau yn dangos hanes mwy cymhleth.

"Mae map y plwyf o'r 1840au yn dangos bod yma gannoedd o leiniau o dir ffermio mewn clytwaith, o feintiau y gallai un aelwyd ei reoli. O'r ddaear fe fyddai'n anodd i chi weld unrhyw beth nodedig am y tir ond o'r awyr, mae'r dystiolaeth yn glir.

"Mae'r lleiniau bron yn sicr yn ganoloesol, neu'n hŷn. Mae'r llwybrau yn amlwg yn hen, yn dyst i ganrifoedd o gerdded yn ôl ac ymlaen yn ddyddiol o'r ty i'r llain o dir."

5. Ogof Pen-y-fai

Ffynhonnell y llun, leighcol

"Yn 1923, darganfyddodd gwyddonwyr oedd yn archwilio gweddillion mamoth yn Ogof Pen-y-fai ar y Gŵyr, rywbeth o bwys: rhan o sgerbwd dynol wedi ei liwio'n goch a chregyn gwichiaid ac ifori wedi ei gerfio gerllaw. Roedd y canfyddiad yn un mawr oedd yn taflu goleuni ar ddatblygiad dynoliaeth.

"Oherwydd y gleiniau a'r addurniadau tybiwyd mai dynes oedd hi a rhoddwyd yr enw Dynes Goch Pen-y-fai (neu Paviland yn Saesneg) arni - putain neu wrach o bosib - a chredid ei bod yn dod o oes y Rhufeiniaid.

"Ond yn 2009 profwyd nad esgyrn Rhufeinig oedden nhw o gwbl ond eu bod yn 33-34,000 mlwydd oed. Felly'r Ddynes Goch oedd yr enghraifft hynaf o gladdu seremonïol yng ngorllewin Ewrop. Hefyd, darganfyddwyd mai dyn oedd y Ddynes Goch ac mae'n debyg ei fod yn ei ugeiniau hwyr.

"Dyma'r sgerbwd dynol modern hynaf i'w ddarganfod ym Mhrydain. Credir bod y lliw coch yn dod o ocr coch (ocsid haearn) a gafodd ei wasgaru yn ystod y claddu neu o'r dillad.

Disgrifiad o’r llun,
Ailgread o'r gladdedigaeth ar gyfer rhaglen deledu

"Mae'r ogof yma bellach ar arfordir Gŵyr ond pan gafodd y dyn ifanc ei gladdu roedd lefelau'r môr 80 metr yn is a'r ogof 70 milltir i mewn i'r tir yn edrych allan dros wastatir glaswelltog lle roedd mamoth, rheinos, ceirw a theigrod ysgithrog yn byw yn Oes y Cerrig.

"Rai miloedd o flynyddoedd wedi'r gladdedigaeth yma fe syrthiodd y tymheredd a diflannodd pobl o Brydain gan adael yr ogof yn wag am filenia."

Mae modd mynd i'r ogof heddiw ond dydi hi ddim yn hawdd a dim ond am rai oriau ar lanw isel mae modd mynd ati. Mae'r esgyrn yn cael eu cadw yn Amgueddfa Hanes Naturiol Prifysgol Rhydychen.

'Hanes y werin'

"Be' sy'n rhyfeddu fi fwya' ydy pan mae pobl yn dweud 'fi'n byw gyferbyn ac oedd dim syniad gen i am hwn'," meddai Owen.

Enghreifftiau eraill o'r rhain yw olion traed y deinosor Coelophysis, 220 miliwn o flynyddoedd oed, sydd i'w gweld ar graig Bendrick yn y Barri a'r trap pysgod enfawr dros 1,000 o flynyddoedd oed ddarganfuwyd dan y dŵr oddi ar draeth Poppit ger Llandudoch mor ddiweddar â 2007 a phrosiect peirianyddol 8,000 o flynyddoedd oed i reoli dŵr ar lefelau Gwent.

O olion cyn hanes i drysorau'r oes efydd fel cawg aur Caergwrle a mwyngloddiau hynafol sydd wedi mynd yn angof, mae 'na arwyddion o hanes Cymru mewn haenau yn y tir ymhob man ond i chi wybod lle i edrych.

Ond y rhai sy'n dweud hanes mwy diweddar y werin yw ffefrynnau Owen.

"Pethau bob dydd, pethau gallech chi'n ddigon hawdd fod wedi sylwi arnyn nhw eich hunain ond bysech chi byth wedi eu clymu nhw at ei gilydd fel rhywbeth sydd â stori tu ôl iddo fe.

"Dwi'n rili licio Lleiniau Llan-non a Thalacharn. Dwi'n licio sut mae gyda ti'r hen feysydd, yr enwau caeau, y pethau pitw bron a bod, hanes teuluol sydd wedi para am fileniwm.

"Dwi'n licio'r cysyniad yna bod 'da ti'r pethau bach yma sydd yn golygu cymaint. Mae 'na hunaniaeth yn hwnna ti'n gallu ymfalchio ynddo fe."

Hefyd o ddiddordeb: