Tlws Bob Willis: Morgannwg 42 o rediadau ar ei hôl hi

  • Cyhoeddwyd
Dan Douthwaite
Disgrifiad o’r llun,
Sgoriodd Dan Douthwaite 30 heb fod allan yn y batiad cyntaf

Bydd Morgannwg yn dechrau diwrnod olaf eu gêm yn erbyn Swydd Gaerloyw 42 o rediadau ar ei hôl hi.

23 am ddim wiced oedd eu sgôr yn yr ail fatiad ar ddiwedd y chwarae yng Ngerddi Soffia ddydd Llun.

Fe wnaeth yr ymwelwyr sicrhau'r fantais ar ôl cyfyngu Morgannwg i 116 yn y batiad cyntaf, gyda David Payne yn cipio pum wiced am 31 o rediadau.

Sgoriodd Dan Douthwaite 30 heb fod allan.

181 oedd sgôr Caerloyw 181 mewn ymateb, gan greu bwlch o 65. Graham Wagg oedd bowliwr mwyaf llwyddiannus Morgannwg (3-38).

Sgoriodd Nick Selman fwyafrif rhediadau'r ail fatiad hyd yma, sef 17.