Cofnod yn hwyluso 'trafod yr iaith fel pe na bai'n bodoli'

Alun Jones
Uned Wleidyddol BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd
Y tri opsiwn ieithyddol yn y Cofnod
Disgrifiad o’r llun,
Y tri opsiwn ieithyddol yn y Cofnod

Mae'r opsiwn Saesneg yn unig ar gyfer cofnod ysgrifenedig y Senedd yn tanseilio ymrwymiad y sefydliad i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal, meddai arbenigwr ar ddwyieithrwydd.

Dywedodd Dr Hywel Glyn Lewis bod yr opsiwn yn ei wneud yn hawdd i "drafod yr iaith fel pe na bai yn bodoli".

Dywedodd llefarydd ar ran y Senedd fod yr opsiynau dwyieithog, Saesneg a Chymraeg yn adlewyrchu "statws cyfartal" yr ieithoedd.

Dim ond 16% o'r geiriau a lefarwyd yng nghyfarfodydd llawn y Senedd yn 2019-20 oedd yn Gymraeg.

Am nifer o flynyddoedd bu'r Cynulliad, fel yr oedd yn cael ei alw bryd hynny, yn darparu'r cofnod mewn fformat dwyieithog - roedd yr ieithoedd mewn colofnau cyfochrog, gyda'r iaith a gafodd ei llefaru ar y chwith a'r cyfieithiad ar y dde.

Mae'r Senedd bellach hefyd yn cynnig yr opsiwn o ddarllen y cofnod yn Saesneg yn unig neu'n Gymraeg yn unig - nid yw'r naill fersiwn na'r llall yn nodi ai hi yw'r iaith a lefarwyd neu gyfieithiad.

Dywedodd Dr Hywel Glyn Lewis, o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wrth BBC Cymru mai "gweld y ddwy iaith o leiaf yn gyfochrog sydd yn sicrhau cyfartaledd ieithyddol gan gofio bod cyfartaledd gweledol yn agwedd ymarferol bwysig ar weithredu hynny".

"Gwyddys y gall gweithredu yn y fath fodd sbarduno unigolion (nad ydynt yn meddu ar lawer o hyfedredd dwyieithog) i feithrin ac ymestyn eu sgiliau, hyd yn oed os gwnânt hynny'n oddefol ac yn anfwriadol," meddai.

Rhybuddiodd mai "effaith cynllun amgen lle gellir darllen y Saesneg yn unig gan anwybyddu'r Gymraeg yn llwyr yw trafod yr iaith fel pe na bai yn bodoli; hynny yw, mabwysiadu polisi sydd, er yn caniatáu gwleidyddion i honni bod y Gymraeg yn 'swyddogol gyfartal' ac yn gyfuwch ei statws, eto yn llai ei statws gweledol na'r Saesneg ac yn llai ei heffaith seicolegol yn ogystal o ganlyniad".

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd, sy'n rhedeg y sefydliad: "Un o brif flaenoriaethau'r Senedd yw sicrhau bod ein gwaith yn dryloyw ac yn atebol.

"Er mwyn i'r gwasanaeth fod mor hygyrch a phosibl rydym yn cynnig y dewis i bawb ddefnyddio'r Cofnod yn ddwyieithog neu mewn un iaith o'u dewis, gan adlewyrchu statws cyfartal ein hieithoedd swyddogol."

Yn ôl data ar gyfer 2019-20, roedd 16% o'r geiriau a ddefnyddiwyd yng nghyfarfodydd llawn y Senedd yn Gymraeg, i lawr o 20% yn 2017-18.

Mewn cyfarfodydd pwyllgor, dim ond 6% o'r cyfraniadau a oedd yn Gymraeg yn 2019-20, o'i gymharu ag 8% yn 2017-18.

Disgrifiad o’r llun,
Mae aelodau’r Senedd wedi cyfarfod yn llwyr neu’n rhannol ar Zoom ers dechrau'r cyfnod clo.

Ychwanegodd Dr Lewis fod y defnydd o Gymraeg yng nghyfarfodydd y Senedd a darparu cofnod dwyieithog yn gallu bod fod yn "ddylanwad pwerus ar eraill i feithrin eu dwyieithrwydd".

Ychwanegodd y llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd: "Mae'r Senedd yn sefydliad dwyieithog sy'n trin y ddwy iaith yn gyfartal ac yn annog y defnydd o'r Gymraeg gymaint â phosibl.

"Mae yna nifer fawr o wasanaethau ar gael i gefnogi a sicrhau bod staff ac aelodau yn gyfforddus wrth ddefnyddio'r Gymraeg a does dim adeg pan nad yw'r cyfle ar gael i ddefnyddio'r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig."

Tra bod cyfraniadau Aelodau o'r Senedd mewn cyfarfodydd llawn yn cael eu cyfieithu ar gyfer y cofnod, mae trawsgrifiadau o'r pwyllgorau yn cynnwys cyfieithu Cymraeg i Saesneg yn unig.​

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol