Angen gwaith 'ar frys' i achub muriau harbwr

  • Cyhoeddwyd
harbwr aberaeron

Fe ddywed trigolion Aberaeron fod angen gwaith "ar frys" i achub muriau harbwr hanesyddol y dref.

Cafodd muriau harbwr Aberaeron eu codi yn 1807, ond dydyn nhw heb gael eu cynnal a'u cadw yn iawn ers bron 50 mlynedd, medd un o'r trigolion.

Mynnodd Phil Davies bod "gormod o arian wedi cael ei wastraffu" gan y cyngor sir yn gwneud ymchwil, ond dim ar drwsio'r wal.

Dywedodd Cyngor Ceredigion eu bod yn chwilio am gontractwyr i gynnal asesiad o'r harbwr.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Phil Davies wedi byw yn Aberaeron ar hyd ei oes

Mae Mr Davies wedi byw yn y dref gydol ei oes, ac mae'n dweud fod yn harbwr wedi cael ei adael "mewn cyflwr truenus dros ben".

"Does bron ddim gwaith cynnal a chadw wedi ei wneud yma ers ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974", meddai, "cyn hynny roedd e'n digwydd yn flynyddol."

"Be sy'n rhaid digwydd yw bod Llywodraeth Cymru yn dod a'r arian lan nawr i neud y gwaith a chryfhau'r waliau.

"Maen nhw wedi bod yn buddsoddi arian ers degawdau nawr yn neud ymchwil i weld beth sy'n digwydd ond yn neud dim ar ôl hynny.

"Jest gwastraffu amser ac arian ar ymchwil trwy'r amser yn lle gweithredu."

Disgrifiad o’r llun,
Mae wal yr harbwr yn Aberaeron yn gyrchfan boblogaidd i bobl hel crancod yn ystod misoedd yr haf

Un arall sydd o'r farn fod angen sicrhau dyfodol i'r harbwr ydy Elinor Ingam o Gymdeithas Aberaeron.

"Mae'r harbwr yn bwysig iawn. Heblaw am yr harbwr, byddai Aberaeron ddim yn bodoli.

"Fe gafodd ei adeiladu yn 1807 ac o hynny ymlaen roedd busnes yn llewyrchus yn y dref, cymaint o waith i bobl yr ardal yma a llongau yn cael eu hadeiladu a'u hwylio ar draws y byd.

"Mae'n bwysig iawn diogelu'r rhan bwysig yma o hanes Aberaeron."

Angen barn pobl leol

Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans o Gyngor Ceredigion: "Mae'n sefyllfa ddifrifol iawn yma ac mae angen i ni gael mwy o arian gan Lywodraeth Cymru am hyn.

"Mae hi mor bwysig i ni gael cynllun mewn lle nawr ar gyfer harbwr Aberaeron oherwydd mae lot o waith i'w wneud.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi cyllid ar gyfer ymchwil, ond ry'n ni'n awyddus i weld y camau nesaf ynghyd â chyllid ar gyfer y gwaith ei hun.

"Mae'n bwysig hefyd fod pobl leol yn mynegi'u barn yn yr ymgynghoriad pan fydd hwnna'n cael ei gyhoeddi."

Ychwanegodd Cyngor Ceredigion y bydd "gwaith ymchwil tir" yn digwydd pan fydd y broses dendro wedi ei chwblhau ac y bydd contractwr wedi ei benodi, ac mae disgwyl i hynny ddigwydd ym mis Hydref.