Cyhuddo dyn, 46 o Gwmbrân, o droseddau ffrwydron

  • Cyhoeddwyd
Llys Ynadon CaerdyddFfynhonnell y llun, Google

Mae dyn o Gwmbrân wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o fod â ffrwydron yn ei feddiant am bwrpas anghyfreithlon.

Cafodd y dyn 46 oed ei arestio ar ôl i'r heddlu chwilio tŷ yng Nghwmbrân yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd swyddogion arbenigol eu galw i symud y deunyddiau o'r eiddo yn ddiogel.

Ni wnaeth y dyn gyflwyno ple yn Llys Ynadon Caerdydd, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa wedi'r gwrandawiad ar 29 Awst.