Plentyn wedi ei daro gan gar yn sir Conwy
- Cyhoeddwyd

Mae plentyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei daro gan gar yn Hen Golwyn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Abergele am tua 08:15 fore Iau.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod adroddiadau fod plentyn a char wedi bod mewn gwrthdrawiad.
Fe gafodd y ffordd ei chau yn rhannol, ac fe gafodd y plentyn ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Glan Clwyd.
Nid oes unrhyw fanylion pellach am oed na chyflwr y plentyn ar hyn o bryd.