Cynghrair Europa: Y Seintiau Newydd allan ar giciau o'r smotyn
- Cyhoeddwyd

Mae'r Seintiau Newydd allan o Ewrop wedi iddyn nhw golli ar giciau o'r smotyn yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa i B36 Tórshavn yn yr Ynysoedd Ffaroe.
Fe sgoriodd Dean Ebbe gôl i roi'r ymwelwyr ar y blaen o 2-1 yn hwyr yn yr amser ychwanegol.
Ond fe sgoriodd B36 gydag eiliadau o'r 120 munud yn weddill, gan fynd â'r gêm i giciau o'r smotyn.
Fe fethodd Ebbe a Daniel Redmond eu cynigion, gan olygu mai'r tîm cartref sy'n mynd yn eu blaenau yn y gystadleuaeth.
Roedd yr eilydd Leo Smith wedi unioni'r sgôr i'r Seintiau gyda llai na 10 munud o'r 90 gwreiddiol yn weddill.