Cymru fyny i 21 ar restr detholion y byd FIFA

  • Cyhoeddwyd
Jonny a BaleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Jonny Williams a Gareth Bale yn dathlu ar ddiwedd y gêm ddiweddar yn erbyn Bwlgaria

Mae Cymru wedi esgyn dau safle i rif 21 ar restr detholion y byd FIFA.

Daw hyn yn dilyn buddugoliaethau yn erbyn Y Ffindir a Bwlgaria yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn gynharach yn y mis.

Gwlad Belg sy'n parhau ar frig y rhestr, o flaen Ffrainc ac yna Brasil, gyda Lloegr yn bedwerydd.

Mae tîm Ryan Giggs yn uwch na Gweriniaeth Iwerddon (37), Gogledd Iwerddon (38) a'r Alban (49).

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol