'Angen penderfyniadau dewr i sicrhau adferiad gwyrdd'

Steffan Messenger
Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd
Syr David Henshaw
Disgrifiad o’r llun,
Mae Syr David Henshaw yn arwain tasglu ar ran Llywodraeth Cymru

Bydd angen cymryd penderfyniadau dewr i sicrhau "adferiad gwyrdd" wedi'r pandemig, yn ôl pennaeth tasglu Llywodraeth Cymru ar y pwnc.

Dywedodd Syr David Henshaw ei bod yn "gwbl hanfodol" mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar y cyd â Covid-19.

Mae hynny'n golygu buddsoddi'n "drwm iawn" i alluogi pobl i weithio o gartref ar gyfer y tymor hir, meddai.

Dywed y gallai fod gwaith i bobl ifanc ar brosiectau natur, ac ymdrech i droi swyddfeydd gwag yn dai neu fflatiau cynaliadwy.

Fe ddatgelodd bod ei dîm wedi derbyn dros 180 o syniadau ar gyfer polisïau a phrosiectau posib a'u bod wrthi'n ystyried pa rai i'w cefnogi.

"Mae rhai o'r syniadau'n heriol ond rwy'n credu y bydd yn rhaid i ni fod yn eithaf dewr," meddai.

"Y perygl yw ein bod yn mynd am yn ôl a defnyddio hen fesurau i helpu'r economi wrth i ni ailgychwyn [ar ôl Covid] a methu cymryd o ddifrif wedyn yr hyn sy'n ein hwynebu ni o ran yr argyfwng hinsawdd.

"Mae'n fygythiad i'n bodolaeth ni'n gyfan gwbl a gallwn ni ddim jyst ei adael e, ei roi ar un ochr y ddesg ac aros i ddal i fyny ag e. Mae'n rhaid ymateb i'r ddwy her gyda'i gilydd," rhybuddiodd.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Ben Rawlence yn rhan o goleg arloesol ym Mhowys

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Syr David - cadeirydd presennol Cyfoeth Naturiol Cymru a chyn-brif weithredwr Cyngor Dinas Lerpwl - arwain eu Tasglu Adferiad Gwyrdd.

Yn ogystal â gweithio allan sut i helpu elusennau amgylcheddol a grwpiau gwirfoddol - sydd wedi wynebu problemau ariannol dybryd oherwydd y pandemig - i oroesi a pharhau â'u gwaith, fe ofynnwyd iddyn nhw ystyried syniadau ymarferol i atal newid hinsawdd a cholledion natur tra'n creu swyddi a chryfhau'r economi.

Mae disgwyl iddyn nhw gyflwyno adroddiad i weinidog yr amgylchedd Lesley Griffiths yn ddiweddarach eleni.

Ond dywedodd Syr David mewn cyfweliad â BBC Cymru bod y syniadau sy'n cael eu hystyried yn amrywio o "brosiectau lleol bach i rai mawr iawn ledled y wlad".

Maen nhw'n cynnwys mesurau i hybu ffermio garddwriaeth fel bod modd i bobl brynu ffrwythau a llysiau sy'n fwy lleol, troi swyddfeydd gwag yn gartrefi ecogyfeillgar, a chynnig gwaith i'r rhai sy'n gadael yr ysgol ar brosiectau natur.

Un o'r blaenoriaethau allweddol hefyd ddylai fod gwella'r seilwaith sy'n caniatáu i bobl weithio gartref - sydd "ddim yn ddigon da" ledled Cymru ar hyn o bryd.

"Rhaid i ni feddwl am fuddsoddi'n drwm iawn yn hynny os ydym am ei weld fel USP mawr wrth symud ymlaen, gan ddod â buddsoddiad i'r wlad," meddai.

Adferiad gwyrdd ar waith

Yn Nhalgarth ym Mhowys, mae'r tîm sy'n gyfrifol am goleg arloesol yn dweud eu bod yn gobeithio chwarae'u rhan wrth sicrhau adferiad gwyrdd.

"Fe ddechreuodd Coleg y Mynydd Du fel syniad penodol i ymateb i newid hinsawdd a'r argyfwng natur a hynny er mwyn cynhyrchu math newydd o raddedigion," esboniodd y cyfarwyddwr Ben Rawlence.

Gan ganolbwyntio ar ddysgu cynaliadwyedd, ecoleg, sgiliau treftadaeth a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru - maen nhw'n gobeithio y bydd y cyrsiau'n paratoi myfyrwyr ar gyfer y "dyfodol sero net".

Disgrifiad o’r llun,
"Cynhyrchu math newydd o raddedigion" yw nod Coleg y Mynydd Du

"Ry'n ni'n gobeithio y gallwn ni fod yn gatalydd ar gyfer adfywio canolbarth Cymru gyfan - gan helpu i atal y llif o bobl ifanc dros y ffin i Loegr i astudio addysg bellach ac uwch," ychwanegodd Mr Rawlence.

"Mae sicrhau adferiad gwyrdd yn golygu gwneud pethau'n wahanol. A fe fydden ni'n dadlau bod buddsoddi mewn creu'r math o bobl sy'n mynd i'n harwain ni at y newid sydd ei angen yn y dyfodol yn gall iawn."

Er y bydd cyrsiau galwedigaethol yn dechrau y flwyddyn nesaf, mae'r coleg yn gobeithio cynnig rhaglen i fyfyrwyr israddedig o 2022, gan anelu yn y pendraw at dderbyn 600 o fyfyrwyr y flwyddyn.

'Ffordd wahanol o fyw yn bosib'

Dywedodd Ann Jones, Is-gadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched ac ymgyrchydd hinsawdd ei bod yn croesawu'r ffocws ar weithio gartref.

"Ry'n ni wedi colli cenedlaethau o dalent o'n cymunedau gwledig. Nawr mae'r pandemig wedi dangos y gall pobl weithio'n llwyddiannus o'u cartrefi felly mae rhoi mesurau yn eu lle i sicrhau y gallan nhw wneud hynny'n wirioneddol effeithiol - gyda gwell band-eang - yn hanfodol."

Dywedodd Ffion Storer Jones o'r Prosiect Ieuenctid Gwledig fod y misoedd diwethaf wedi tynnu sylw at ba mor gyflym y mae modd i bobl newid eu harferion.

"Mae pobl ifanc wedi bod ar y strydoedd ers blynyddoedd bellach yn gofyn am newid ac mae'r pandemig wedi dangos i ni bod ffordd wahanol o fyw yn bosibl lle ry'n yn gweithio o fewn ffiniau'r blaned i greu byd sy'n well i'r amgylchedd a phobl."

Dywedodd Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cadwraeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru y dylid rhoi pwyslais ar sicrhau bod mannau gwyrdd ar gael i bawb yn agos i'w cartrefi, "boed hynny yn y wlad neu'r dref".

"O'n safbwynt ni mae'r pandemig wedi dangos pa mor bwysig yw gallu cael mynediad i wyrddni a pha mor werthfawr yw hynny i'n hymwelwyr."