Chris Gunter yn arwyddo i Charlton Athletic

  • Cyhoeddwyd
Chris GunterFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Gunter sydd â'r record o gapiau i dîm dynion Cymru, gan gynrychioli ei wlad 97 o weithiau

Mae Charlton Athletic o Adran Un wedi arwyddo amddiffynnwr Cymru, Chris Gunter.

Mae Gunter, sy'n 31 oed, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gydag opsiwn am flwyddyn ychwanegol.

Fe adawodd Reading fis Gorffennaf ar ôl 314 ymddangosiad i'r clwb dros gyfnod o wyth mlynedd.

Mae'r cyn-chwaraewr Caerdydd, Tottenham a Nottingham Forest wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru i wynebu Lloegr mewn gêm gyfeillgar yn Wembley nos Iau.