Mark Drakeford yn galw am 'ail-lunio radical' o'r DU

Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw am i'r Deyrnas Unedig gael ei "hail-lunio'n radical" er mwyn iddi oroesi yn y dyfodol.

Roedd Mark Drakeford yn siarad yn ystod lansiad adroddiad gan aelodau'r Blaid Lafur yn galw am roi mwy o bwerau i'r cenhedloedd datganoledig.

Ychwanegodd fod chwalu'r DU yn "berygl gwirioneddol a phresennol".

Mewn ymateb, dywedodd y Ceidwadwyr fod gan Lafur obsesiwn gyda grymoedd, ac fe ddywedodd Plaid Cymru eu bod yn hen syniadau.

Wrth siarad mewn lansiad ar-lein o'r ddogfen 'Ni, y bobl: Yr Achos dros Ffederaliaeth Radical' fore dydd Mawrth, galwodd Mr Drakeford ar gomisiwn Plaid Lafur y DU ar y cyfansoddiad i gofleidio "radicaliaeth" y syniadau.

Dywed y pamffled, sydd wedi'i ysgrifennu'n rhannol gan aelod o Senedd Cymru dros Bontypridd, Mick Antoniw, y dylai San Steffan reoli rhai blaenoriaethau "strategol" yn unig, megis amddiffyn a phenderfyniadau mawr ar yr economi.

Mae'n galw ar y Blaid Lafur dan arweinyddiaeth Syr Keir Starmer i gynnig dewis arall yn lle annibyniaeth neu'r sefyllfa bresennol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Mark Drakeford yn siarad ystod lansiad adroddiad gan aelodau Llafur ar ddyfodol y Deyrnas Unedig

Dylai Llafur anelu at "undeb gwirfoddol dilys o genhedloedd", meddai'r adroddiad, gyda phob rhan o'r wlad yn cael "cyfran deg" o adnoddau.

Gan ddyfynnu llwyddiant yr SNP, plaid genedlaethol Yr Alban, a honni bod "tynfa disgyrchiant" pobl yng Ngogledd Iwerddon yn troi "tua'r de, ar draws ynys Iwerddon", rhybuddiodd Mr Drakeford: "Mae chwalu'r Deyrnas Unedig yn bosibilrwydd real ac yn berygl presennol."

Cymeradwyodd y prif weinidog syniadau'r pamffled fel rhai "rhagorol" a "chyfraniad angenrheidiol iawn", a dywedodd fod yn rhaid i'r Blaid Lafur arwain y ddadl ar y cyfansoddiad.

'Rhaid creu undeb newydd'

Mae gan Gymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyd wahanol lefelau o ddatganoli, ond dywedodd y prif weinidog nad oedd "unrhyw bwynt" mewn ceisio atgyfodi setliad cyfansoddiadol "sydd wedi gweld dyddiau gwell".

"Yn lle hyn, rhaid i ni greu undeb newydd."

Dadleuodd Mr Drakeford, wrth siarad o swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd, y dylid gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar fywydau bob dydd pobl.

Disgrifiad o’r llun,
Gorymdaith dros annibyniaeth yng Nghaernarfon yn 2019

Dywedodd Mick Antoniw: "Hyd yn hyn, mae'r ddadl dros ddiwygio wedi'i dominyddu gan y dewis o fodel o annibyniaeth denau heb ei hystyried yn llawn, neu undebaeth galed.

"Rydyn ni'n credu bod yna ffordd well.

"Diwygiad blaengar sy'n rhoi pobl a chymunedau yn gyntaf, yn seiliedig ar undeb gwirfoddol o genhedloedd yn dod ynghyd gyda bwriad ac egwyddorion cyffredin, mewn ffederaliaeth radical."

'Syniadau ddoe gan blaid ddoe'

Wrth ymateb, dywedodd Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig mewn neges ar Twitter: "Trist gweld Llafur yn obsesu dros bwerau unwaith eto - pe baent ond yn canolbwyntio ar y rhai oedd ganddyn nhw'n barod!"

Ychwanegodd Delyth Jewell o Blaid Cymru, sy'n cefnogi annibyniaeth: "Dyma syniadau ddoe gan blaid ddoe. Roedd gan Lafur 13 blynedd mewn grym yn San Steffan i gyflawni datganoli radical i Gymru, ac fe wnaethon nhw fethu.

"Nid yw record sydd wedi torri am arbed undeb sydd wedi torri. Dro ar ôl tro maen nhw wedi pleidleisio yn Senedd y DU yn erbyn mwy o bwerau i'r Senedd.

"Mae'r Blaid Lafur yn cael ei goddiweddyd yn gyflym gan ddigwyddiadau a dyheadau pobl Cymru - gan gynnwys hanner eu haelodaeth - i weld ein cenedl gyda rheolaeth lawn dros benderfynu ar ei dyfodol ei hun."

Straeon perthnasol