Beth fydd Arlywyddiaeth Joe Biden yn ei olygu i Gymru?

  • Cyhoeddwyd
Maxine HughesFfynhonnell y llun, Maxine Hughes
Disgrifiad o’r llun,
Maxine Hughes yn gohebu i Newyddion S4C yn Washington

Mae'r Gymraes Maxine Hughes yn newyddiadurwr yn yr Unol Daleithau. Mewn cyfnod o newid; Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac Arlywydd newydd wedi ei ethol i'r Tŷ Gwyn, mae'n edrych ar y berthynas rhwng yr Unol Daleithau a gweddill y byd.

Yma, mae'n trafod perthynas Cymru a'r UD o safbwynt masnach, a'r rhaniad sydd yn y wlad wrth i Joe Biden gychwyn ar ei Arlywyddiaeth:

Wrth i Brydain anelu tuag at Brexit, roedd pobl yn cael eu haddo, a'u lleddfu, gyda bargen fasnach newydd fawr gyda'r Unol Daleithau. Ond nid yw pethau wedi symud yn gyflym.

Yn sicr fe wnaeth ymgyrch etholiad yr UD arafu trafodaethau. Ond roedd llawer yn gobeithio y gallai cyn Arlywydd America Donald Trump gytuno ar rywbeth cyn gadael ei swydd. Felly nawr mae hi i fyny i'r Arlywydd Biden.

'Mae urddo Joe Biden wedi rhoi cyfle i ni, alltudion Cymraeg, i feddwl sut y gallai pethau newid...'

Yn aml, bydd gwleidyddion a sylwebyddion gwleidyddol yn sôn am y 'berthynas arbennig' sy'n bodoli rhwng y DU a'r UD. I bobl o Gymru sy'n byw yn yr Unol Daleithau, yn bendant mae yna bethau sy'n ein hatgoffa o gartref, yn enwedig ardaloedd fel Pennsylvania a Chicago, lle mae etifeddiaeth mewnfudwyr o Gymru yn bodoli mewn enwau lleoedd enwog.

Gall miloedd o Americanwyr o gefndir Cymreig olrhain hanes eu cyndadau i weithio mewn pyllau glo neu amaethyddiaeth. Pan ddywedaf fy mod yn dod o Gymru, byddaf yn aml yn cael fy ateb gyda stori am sut mae cysylltiad teuluol â Chymru, neu gwestiynau brwd am yr iaith Gymraeg.

Mae urddo Joe Biden wedi rhoi cyfle i ni, alltudion Cymraeg, i feddwl sut y gallai pethau newid - i ni sy'n byw yma yn America, ond hefyd am y berthynas rhwng ein gwlad enedigol, a'r un rydyn ni'n ei galw'n gartref nawr.

Mae'r Unol Daleithiau yn cynnig ei marchnad allforio fwyaf i Gymru y tu allan i Ewrop ac yn buddsoddi'n sylweddol yn economi Cymru.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Mae masnach rhwng Cymru a'r UD wedi bod yn bwnc sgwrsio gyda fy ffrind Dai Evans, sydd yn fuddsoddwr, yn wreiddiol o Lanbedr Pont Steffan sydd bellach yn byw yn Laguna Beach, California. Mae Dai wedi bod yn yr Unol Daleithiau am dros 30 mlynedd, felly mae o wedi gweld y berthynas rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau yn datblygu dros ddegawdau.

"Nid yw bargen masnach yn uchel ar ei restr gwaith i'w gwblhau"

Nid yw Dai yn credu bod masnach ar ben rhestr o flaenoriaethau Biden. Yn hytrach meddai:

"Bydd Biden yn canolbwyntio ar yr argyfwng COVID-19 a cheisio cael rheolaeth arno. Yn ogystal, bydd yn anelu i roi hwb i'r economi drwy gynnig mwy o arian i'r llai breintiedig yn ein cymdeithas. Mae o hefyd yn debygol o fuddsoddi yn ein rhwydweithiau isadeiledd.

"Nid yw bargen masnach yn uchel ar ei restr gwaith i'w gwblhau," meddai Dai Evans.

Dywed Dai mai allwedd Cymru i berthynas gref dros yr Atlantig yw symud i ffwrdd o fod mor gaeth i'r syniad o fod yn Brydeiniwr.

"Yr unig ffordd mae Cymru'n medru creu masnach efo'r UDA yw drwy ganolbwyntio ar ambell i dalaith, a hyd yn oed ambell i sir yn y taleithiau penodol. Mae ein hadnoddau yn rhy brin i beidio dewis a dethol yn ddoeth.

"Bydd hefyd angen i ni beidio ag ymddwyn fel Prydeinwyr uchel-ffroen. Byddwn dipyn mwy llwyddiannus wrth dorri cwys sy'n adlewyrchu ein personoliaeth genedlaethol ninnau.

"Mae'r brand Prydeinig wedi colli unrhyw safon oedd ganddo," yn ôl Dai Evans.

"Mae'r berthynas arbennig angen dipyn o waith. Nid yw Prydain tu allan Ewrop mewn safle cystal i leoli busnesau Americanaidd ag oedd. Mi fydd yn anoddach tu hwnt i ddenu busnesau Americanaidd acw," ychwanegodd Dai Evans.

Dyfodol llawn heriau

Mae Trystan Parry, yn gweithio fel VP Sales i Advent Aerospace, rhan o gwmni Boeing yn Seattle. Rydym ni wedi trafod perthynas yr Unol Daleithau gyda gwledydd eraill o'r blaen, er enghraifft pan gododd Trump dollau yn erbyn China a effeithiodd ar fusnes Trystan, ac a arafodd fasnachu dros y pedair blynedd diwethaf.

Mae Trystan Parry yn gweld busnes yn fwy lleol yn y dyfodol, gyda llai o fasnach gyda gwledydd tramor.

"Dwi'n meddwl bydd yna fwy o gwmnïau yn cael eu perswadio i gynhyrchu mwy yn America a llai dramor," meddai.

"Fydd hyn achos Covid-19, dibynnu llai ar wledydd tramor ond hefyd yn thema o'r blaen gan Biden ac Obama.

"Dwi'n meddwl fydd penderfyniadau, strategaeth a gweithred America ym mhob maes, yn fwy meddylgar, addfwyn a thymor hir, a llai anrhefnus", ychwanegodd.

Ond mae Trystan Parry yn gweld bywyd yn America yn ddrytach yn y dyfodol oherwydd Covid 19.

"Fydd yr economi yn cael hwb fawr flwyddyn yma gan i'r wlad fynd yn ôl at normal, a dwi'n siwr bydd angen codi trethu rhyw ben i ddelio gyda'r costau Covid-19 i gyd".

Ond ar wahân i fasnach a busnes, mae'n ddiddorol edrych ar y cyfleoedd eraill sydd ar y gorwel.

Roedd polisïau Trump o ran mewnfudo a chyfiawnder cymdeithasol yn ddadleuol. Roedd y delweddau o blant wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni wedi dychryn y byd. Penderfynodd Trump wahardd pobl trawsryweddol o'r fyddin - rhywbeth arall oedd yn cael ei ystyried yn warthus i lawer o Americanwyr.

'Roedden ni wastad ar binnau ac yn disgwyl i rywbeth ddigwydd i'n hawliau...'

Mae Bethan Marlow yn byw yn Miami gyda'i gwraig Carolina sydd yn wreiddiol o Golombia, a'u dau blentyn, Celt a Mabli.

Mae Bethan yn disgrifio cyfnod Trump fel amser ansicr iawn:

"Hefo rhywun fel Trump yn arwain, mi oedden ni wastad ar binnau ac yn disgwyl i rywbeth ddigwydd i'n hawliau ni fel rhieni neu gwpwl priod. Er enghraifft, os fasa Trump wedi rhoi'r DOMA [Defense of Marriage Act] yn ôl yna faswn i ddim yn cael fy nghydnabod fel gwraig i Carolina ac felly mi faswn i'n colli Green Card fi.

"O'dda ni byth yn teimlo fod o'n warchodol o'n hawliau ni, yn enwedig o weld pa mor greulon mae o wedi bod hefo hawliau pobol transgender- o'dda chdi wastad yn meddwl "ai ni fydd nesa?"

Mae Bethan Marlow yn gobeithio gweld newidiadau mawr yn y dyfodol o ran sut y caiff mewnfudwyr eu trin yn yr Unol Daleithau:

"Mae angen gwneud newidiadau mawr ar bob lefel i gael gwared â hiliaeth dwi'n meddwl. Heb hyn, dio'm otsh be wyt ti'n neud, pa gyfleoedd ti'n rhoi yn eu lle neu newidiadau ti'n eu gwneud, os ydi o wedi ei adeiladu ar sail sydd dal yn hiliol yna neith ddim byd wella go iawn," meddai Bethan.

Rhoddodd urddo Joe Biden obaith i lawer o bobl yn yr Unol Daleithiau. Yn ei wythnos gyntaf, pasiodd yr Arlywydd Biden restr o orchmynion gweithredol; llawer ohonyn nhw yn canolbwyntio ar ddod i'r afael â Covid-19, ond sawl un arall yn ymestyn a diogelu deddfau sy'n amddiffyn aelodau bregus o'r gymdeithas fel mewnfudwyr a phobl LGBTQ.

Ond mae America newydd oresgyn un o'u cyfnodau mwyaf ymrannol ers i Nixon ddod i rym. Efallai dwi'n besimydd, ond dwi ddim yn gweld pethau'n newid dros nos. Mae 'na lawer iawn o bobl ar y dde, ac ar y chwith hefyd, sydd ddim yn cefnogi Biden. Yn ogystal â hyn, mae 'na broblemau a rhaniad sydd yn llawer mwy dwfn na'r Arlywydd.

Mae'r Unol Daleithiau yn enfawr, ac mae'n bosib gweld pob talaith bron iawn fel gwlad annibynnol. Wrth gwrs mae 'na harddwch yn y gwahaniaeth, ond mae'r wlad hefyd angen dod o hyd i'r tebygrwydd sydd yn bodoli.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,
Manu a Iori ar Orffennaf 4ydd

'Bydd Manu yn edrych ar y byd trwy lygaid Americanaidd'

Dwi'n edrych ar fy mab Manu sydd yn dair oed, sydd yn Americanwr, ac wedi cael ei eni yn Virginia. Mae'n atgoffa fi pa mor bwysig yw'r cyfnod yma - etifeddiaeth Trump, ac yr etifeddiaeth mae Biden rŵan yn gallu creu, a sut fydd yn effeithio Manu a'i ddyfodol.

Bydd Manu yn edrych ar y byd trwy lygaid Americanaidd, tybed beth fydd ystyr hynny? Fe'i ganed yn ystod oes Trump. Ond mae'n debyg na fydd ond yn cofio popeth a ddaeth ar ôl hynny. A mater i bob un ohonom yma yw siapio sut mae hynny'n edrych. Ond mae Manu yn rhan o gwestiwn cymhleth iawn sy'n bodoli - beth yw bod yn Americanwr?

Nid oes poblogaeth fwy cenedlaetholgar nag Americanwyr ar Orffennaf 4ydd [Diwrnod Annibyniaeth America]. Mae'r trefi a'r dinasoedd yn fôr o goch, gwyn a glas ac mae'r gwladgarwch hwn yn para trwy gydol y flwyddyn mewn rhai agweddau. Mae fy mhlant yn mynychu ysgol gyhoeddus, ac maen nhw'n cael eu dysgu rhai traddodiadau. Mae'r ddau yn gwybod bod disgwyl iddynt sefyll cyn gynted ag y bydd llinell gyntaf Star Spangled Banner yn dechrau chwarae. Maent yn gwybod i ddiolch i gyn-filwyr am eu gwasanaeth, ac i barchu Old Glory lle bynnag y mae'n hedfan.

Ond nid oes llawer o undod mewn gwleidyddiaeth yma, ac mae rhaniad enfawr yn y ffordd y mae pobl am i'r wlad hon gael ei llywodraethu.

Mae'r UD yn gartref i bron i 330 miliwn o bobl, mae Cymru'n gartref i lai na 4 miliwn. Ond mae yna ychydig o bethau y gallai'r wlad enfawr hon eu dysgu gan Gymru fach - ynglŷn â dod at ein gilydd yn ystod argyfwng, ac aros gyda'n gilydd fel un, hyd yn oed yn wyneb gwahaniaeth mawr.

Yn fy marn i, her fwyaf Joe Biden, yw ffeindio ffordd i rymuso pob person yma i deimlo fel maen nhw'n rhan o'r genedl, heb golli'r pethau sydd yn bwysig iddyn nhw fel unigolion. A dyna efallai, y peth mwyaf 'Americanaidd' mae'r Arlywydd newydd yn gallu gwneud.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig