Middlesborough 1 Caerdydd 1

  • Cyhoeddwyd
caerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Sean Morrison yn rhwydo i'r Adar Gleision

Mae rhediad yr Adar Gleision o chwe buddugoliaeth yn olynol yn y Bencampwriaeth wedi dod i ben ar ôl iddyn nhw orfod bodloni ar rannu'r pwyntiau oddi cartref yn Middlesbrough.

Fe aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf gyda Sean Morrison yn rhwydo am yr eildro yr wythnos hon yn erbyn llif y chwarae. Roedd hi'n edrych yn debyg y byddai Mick McCarthy yn ei seithfed nef ond fe lwyddodd Paddy McNair i ddod a Boro yn gyfartal gyda wyth munud i fynd.

Er hynny mae Caerdydd yn parhau yn ddi-guro ers i McCarthy gymryd yr awenau fis diwethaf. Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn llithro o safleoedd y gemau ail gyfle i'r wythfed safle gyda Middlesbrough un safle yn is yn nawfed.