Pro 14: Zebre 26 Dreigiau 15
- Cyhoeddwyd

Colli fu hanes y Dreigiau oddi cartref yn Zebre yn y Pro 14.
Er bod yr ymwelwyr wedi ennill tir yn gynnar fe aeth y clwb o'r Eidal ar y blaen gyda chais gan yr wythwr Giammarioli. Er bod Sam Davies wedi taro yn ôl gyda chic gosb fe sgoriodd Pescetto i'r tîm cartref gyda dwy gic gosb ym mhen arall y cae.
Fe aeth y gêm ymhellach y tu hwnt i reolaeth yr ymwelwyr pan sgoriodd Lorenzo Masselli ar ôl 51 o funudau i'w gwneud hi'n 23-3.
Sgoriodd yr asgellwr Jonah Holmes ddau gais hwyr i wneud i'r sgôr edrych yn fwy parchus i'r tim o Gymru.
Zebre: M Biondelli; P Bruno, T Boni (capt), E Lucchin, G Di Giulio; P Pescetto, M Violi; D Rimpelli, O Fabiani, E Bello, S Ortis, I Nagle, L Masselli, P Leavasa, R Giammarioli.
Eilyddion:: M Ceciliani, P Buonfiglio, M Nocera, M Kearney, J Tuivaiti, N Casilio, A Rizzi, J Elliott.
Dreigiau: J Williams, J Holmes, A Owen, J Dixon, A Hewitt, S Davies, G Bertranou, G Bateman, E Shipp, L Fairbrother, B Carter, J Maksymiw, H Keddie (capt), B Fry, H Taylor.
Eilyddion: R Hibbard, J Reynolds, A Jarvis, J Davies, D Baker, R Williams, J Lewis, J Roberts.