Galw am gymorth i weithwyr a lleoliadau'r celfyddydau

Liam Evans a Siôn Pennar
Gohebwyr BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd
Canolfan PontioFfynhonnell y llun, Pontio
Disgrifiad o’r llun,
Nod yr ymgyrch yw tynnu sylw at effaith y pandemig ar y celfyddydau

Blwyddyn union ers i theatrau Cymru gau eu drysau oherwydd y pandemig, mae 'na alw ar i'r cronfeydd cymorth barhau i gefnogi gweithwyr llawrydd ynghyd â chanolfannau celfyddydol.

Yn ôl ymgyrchwyr mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi "chwalu" y sector yn llwyr.

Ddydd Mawrth bydd Creu Cymru yn lansio ymgyrch #HiraethuAmdanat i geisio tynnu sylw at effaith y pandemig ar y celfyddydau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn deall y pryderon a'u bod eisoes wedi clustnodi £63m yn eu cronfeydd cymorth.

Prin iawn ydy'r cyfleoedd wedi bod i actorion, cantorion a gweithwyr llawrydd yn y maes hwn ers i'r pandemig afael oherwydd natur y maes.

Yn ôl un cyfarwyddwr celfyddydau fe fydd angen rhagor o gymorth ar ôl mis Ebrill.

'Angen mwy o fuddsoddiad'

"Dwi'n gobeithio bod 'na rhyw fath o olau ar ddiwedd y twnnel," meddai cyfarwyddwr Celfyddydau Pontio ym Mangor, Osian Gwynn.

"Mi fyddwn ni angen mwy o fuddsoddiad.

"'Ni ddim yn gwybod beth yn union yw'r trefniant ar gyfer y cyfnod wedi mis Ebrill ond bydd angen buddsoddiad a ni'n obeithiol y daw," meddai wrth siarad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

Mae Pontio wedi ceisio gwneud nifer o ddigwyddiadau rhithiol ond dydy'r rheini ddim yn cynnig yr un cysur na gobaith i actorion sy'n parhau i chwilio am waith.

Disgrifiad o’r llun,
"Dwi'n gobeithio bod 'na rhyw fath o olau ar ddiwedd y twnnel," meddai Osian Gwynn

Un o'r dramâu olaf i gael ei llwyfannu yng nghanolfan Pontio cyn y cyfnod clo llynedd oedd addasiad o nofel ôl-apocalyptaidd Manon Steffan Ross, Llyfr Glas Nebo.

"Dwi'n teimlo mor lwcus gawsom ni orffen y daith a'r sioe," meddai Tara Bethan, oedd yn chwarae rhan y prif gymeriad.

"Mi nes i golli lot o waith a dwi dal wrthi yn colli lot o waith oherwydd y llynedd. Y syniad oedd pwshio bob dim ymlaen blwyddyn ac yn amlwg dydi hynna heb weithio allan.

"Y gwirionedd ydy bod y sefyllfa gelfyddydol ar hyn o bryd ar chwâl ac mae'n dorcalonnus."

Wrth drafod cynulleidfaoedd yn dychwelyd dywedodd nad ydy cael "person bob tair sêt er mwyn cadw pellter ddim yn bosib yn ariannol".

"Dwi'n deall bod yn rhaid aros ond am ba hyd?"

Disgrifiad,

Un sy'n cefnogi'r ymgyrch ydy'r cerddor Dewi Pws, fu'n rhannu'r hyn mae ef yn ei fethu am y theatr

Yn Wrecsam, trodd canolfan gelfyddydol Tŷ Pawb at y we ar ôl gorfod cau y llynedd.

Ochr yn ochr â ffrydio gweithdai a gigiau, llwyfannodd y ganolfan arddangosfa rithiol o'i horielau.

"Pan fedrwn ni, mi wnawn ni wneud pethau mewn person yn yr adeilad," meddai Morgan Thomas, trefnydd digwyddiadau yn Nhŷ Pawb.

"Ond unrhyw beth 'dan ni yn ei wneud, yn symud 'mlaen 'dan ni'n gobeithio ei roi ar-lein hefyd fel bod pawb yn gallu cymryd rhan a gweld hynny."

Agor stiwdio yn ystod pandemig

A thra fo lleoliadau eraill yn cau eu drysau, agorodd sefydliad celf Periclo stiwdios mewn hen gapel yn Rhosrobin yn ystod gwanwyn 2020.

O'r cychwyn roedd llawer o alw am ofod o'r fath ymhlith artistiaid, gan gynnwys myfyrwyr celf oedd yn methu gweithio ar eu campws oherwydd cyfyngiadau.

"Llenwodd y lle'n sydyn iawn," meddai Paul Eastwood, un o'r artistiaid preswyl.

"Roedd y stiwdios cyntaf i ni eu hadeiladu'n llawn, ac wedyn roedd rhestr aros, felly adeiladon ni fwy o stiwdios lawr grisie' ond mae ganddon ni dal restr aros o 10."

Mae Periclo'n gobeithio dod o hyd i ofod newydd i allu ateb y galw.

Ffynhonnell y llun, James Morris
Disgrifiad o’r llun,
Mae canolfan gelfyddydol Tŷ Pawb yn un arall sydd wedi troi at y we ar ôl gorfod cau y llynedd

Mae Creu Cymru, yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer theatrau a chanolfannau Celf Cymru yn lansio ymgyrch #HiraethuAmdanat ddydd Mawrth i dynnu sylw at faint maen nhw'n gweld eisiau cynulleidfaoedd, perfformwyr a staff.

Yn sgil hyn fe fydd theatrau ar hyd a lled Cymru yn cael eu goleuo'n lliwiau'r enfys.

'Pwysau sylweddol ar y sector'

Wrth ymateb i'r galw am fwy o gymorth dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor Celfyddydau fod "pwysau sylweddol ar y sector diwylliannol heb ddyddiad pendant ar gyfer ailagor".

"Mae'n ddealladwy bod hyn yn achosi poeni meddwl. Byddwn yn gallu ariannu unigolion a sefydliadau trwy gydol 2021," meddai llefarydd.

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw hefyd yn deall pryder y maes a'u bod yn gweithio at ailagor yn ddiogel.

"Hyd yn hyn rydym wedi clustnodi £63m i gronfeydd caledi diwylliannol," meddai.

Pynciau Cysylltiedig