Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-0 Stoke

  • Cyhoeddwyd
Kieffer Moore challenging for the ballFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Mae dwy o dair gêm ddiwethaf Caerdydd wedi diweddu gyda dim goliau'n cael eu sgorio

Di-sgôr oedd yr hanes rhwng Caerdydd a Stoke yn eu gêm y Bencampwriaeth.

Dydy'r canlyniad yn gwneud dim i helpu'r naill ochr i gyrraedd y gemau ail-gyfle.

Llwyddodd cliriad Perry Ng stopio Jordan Thompson o Stoke rhag sgorio yn yr hanner cyntaf.

Methodd Kieffer Moore dau gyfle i sgorio'n hwyrach yn y gêm i Gaerdydd.

Mae'r gêm gyfartal yn golygu bod Caerdydd yn cwympo i'r nawfed safle yn y Bencampwriaeth, tra bod Stoke yn yr 11eg safle.