Y Bencampwriaeth: Bournemouth 3-0 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Jack Wilshere o Bournemouth yn ceisio rhwystro Conor Hourihan o AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Jack Wilshere o Bournemouth yn ceisio rhwystro Conor Hourihane o Abertawe

Bournemouth oedd y tîm buddugol yn eu gêm yn y Bencampwriaeth yn erbyn Abertawe, gan ennill o 3-0.

Bydd y canlyniad yn ergyd i Abertawe, sy'n dal i anelu tuag at ddyrchafiad awtomatig.

Rhoddodd gôl Philip Billing Bournemouth ar y blaen yn yr hanner cyntaf, cyn gôl Joel Latibeaudiere i'w rwyd ei hun.

Seliodd gôl Arnaut Danjuma y fuddugoliaeth i Bournemouth yn hwyr yn y gêm.

Mae Abertawe'n aros yn drydydd yn y Bencampwriaeth ond yn colli tir yn erbyn Watford, sydd yn ail.

Mae Bournemouth yn parhau'n seithfed, ond yn cau'r bwlch rhwng y chwe thîm uwchben i ond dau o bwyntiau.