Adran Dau: Casnewydd 0-1 Leyton Orient
- Cyhoeddwyd

Mae Joe Ledley wedi ymuno â Chasnewydd tan ddiwedd y tymor
Roedd yna ergyd i obeithion Casnewydd i sicrhau dyrchafiad o'r Ail Adran wrth iddynt golli gartref 1-0 i Leyton Orient.
Conor Wilkinson sgoriodd yr unig gol y gêm yn dilyn croesiad Daniel Kemp mewn gem gafodd ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd y llumanwr wedi dynodi fod yna gamsefyll, ond anghytuno wnaeth y dyfarnwr.
Daeth Joe Ledley ymlaen o'r fainc, yn ei gêm gyntaf i Gasnewydd ers arwyddo i'r clwb yng nghanol yr wythnos.