M4: Dim arian ar gyfer cynllun cysylltu maes awyr
- Cyhoeddwyd

Mae amheuon a fydd ffordd newydd yn cysylltu Maes Awyr Caerdydd gyda'r M4 yn cael ei hadeiladu ar ol i Lywodraeth Cymru gadarnhau na fyddant yn cyfranu arian tuag at y cynllun.
Roedd dau lwybr yn cael eu hystyried er mwyn osgoi pentre' Pendeulwyn ym Mro Morgannwg.
Byddai'r ddau lwybr wedi costio rhwng £58.6m a £81m.
Wrth gyhoeddi strategaeth trafnidiaeth 20 mlynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau na fyddai'r un o'r ddau lwybr yn derbyn arian.
Dywedodd y gweinidog trafnidiaeth Ken Skates fod polisïau wedi newid ers cyhoeddi'r cynllun yn 2018.
Fe fydd cabinet Cyngor Bro Morgannwg yn cwrdd ddydd Llun i ystyried eu camau nesa.
Fe fydd strategaeth y llywodraeth yn gweld dros £210m yn cael ei fuddsoddi mewn gwahanol gynlluniau dros 20 mlynedd.
Dywed Llywodraeth Cymru fod angen newid arferion teithio pobl oherwydd newid hinsawdd - gan gynnwys llai o geir ar y ffyrdd, gyda mwy o bobl yn cerdded seiclo neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.